05.09.2025

Raffl Codi Arian i Ennill Helmed Dân Unigryw wedi'i Llofnodi

Mae Brave Minds gan Fire Aid yn cynnig y cyfle i ennill helmed dân glas a melyn unigryw, sydd wedi’i llofnodi gan y paffiwr proffesiynol o Wcráin a phencampwr pwysau trwm y byd diamheuol, Oleksandr Usyk.

Gan Steffan John



Mae Brave Minds gan Fire Aid yn cynnig y cyfle i ennill helmed dân glas a melyn unigryw, sydd wedi’i llofnodi gan y paffiwr proffesiynol o Wcráin a phencampwr pwysau trwm y byd diamheuol, Oleksandr Usyk.

Mae’r helmed yn cael ei gynnig fel gwobr raffl er mwyn codi arian hanfodol ar gyfer Diffoddwyr Tân ac Achubwyr Wcráin.  Bydd yr arian yn cael ei roi i Brave Minds gan Fire Aid, sy’n cynnig rhaglen gymorth iechyd meddwl i Ddiffoddwyr Tân Wcráin, yn ogystal â danfon offer tân ac achub i dimau ar y rheng flaen.




Mae'r rhyfel yn Wcráin wedi cael effaith ddinistriol ar Wasanaeth Argyfwng y Wladwriaeth yn Wcráin.  Ers dechrau'r rhyfel, mae 100 o Ddiffoddwyr Tân wedi cael eu lladd a 436 wedi'u hanafu; yn y cyfamser, mae 422 o orsafoedd tân a 1,700 o gerbydau tân wedi'u dinistrio.

Er gwaethaf y colledion niferus hyn, mae Diffoddwyr Tân Wcráin yn parhau i beryglu eu bywydau bob dydd – nid mewn brwydro, ond i achub bywydau ac amddiffyn eiddo, yn aml o dan amodau eithafol a pheryglus.

Mae Fire Aid wedi trefnu sawl confoi o gerbydau ac offer a roddwyd o'r DU, a oedd wedi cyrraedd diwedd eu hoes weithredol ac nad oedd eu hangen mwyach. Mae cyfanswm o 118 o gerbydau tân ac achub a mwy na 200,000 o ddarnau o offer wedi cael eu rhoi ers dechrau’r ymosodiad.

I roi cynnig ar y raffl i ennill yr helmed wedi’i llofnodi ac i gefnogi gwaith Brave Minds a thimau rheng flaen yn Wcráin, ewch i wefan Brave Minds.  Mae pob cynnig i’r raffl yn £5 yr un a’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Mawrth, Medi 30ain.  Dewisir yr enillydd ar hap.  Mae’r telerau ac amodau llawn i’w gweld ar wefan Brave Minds.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf