Cafodd y ras beiciau modur ei threfnu gan Frank Evans o Bost-mawr (Synod Inn), a daeth dros 100 o gyfranogwyr a 33 o feiciau i ymuno. Roedd y daith yn dilyn yr arfordir o Lanarth i Abergwaun, gan groesi i Hwlffordd cyn dychwelyd i Aberaeron dros Fynyddoedd y Preseli.
Trefnodd Mr Evans y digwyddiad ar ôl ei brofiad personol gyda GTACGC. Ar Ddydd San Steffan 2024, aeth criwiau GTACGC o Orsafoedd Tân Cei Newydd, Aberaeron a Llandysul i gartref Mr Evans ar ôl i dân gydio yn nho’r eiddo. Diffoddwyd y tân yn gyflym gan y criwiau, gan ei atal rhag lledaenu i weddill yr eiddo.
Trefnodd Mr Evans y ras beiciau modur i fynegi ei werthfawrogiad i'r Gwasanaeth Tân ac Achub am eu hymateb brys a'u gwaith parhaus i ddiogelu’r gymuned leol. Llwyddodd gasglu’r swm gwych o £1,221 i Elusen y Diffoddwyr Tân, sy'n cynnig cymorth gydol oes i les meddyliol, corfforol a chymdeithasol Diffoddwyr Tân sy'n gwasanaethu, diffoddwyr tân sydd wedi ymddeol, eu teuluoedd, a phersonél Achub Tân a Gwasanaeth eraill.