Ddydd Sadwrn, 16 Awst, bydd diffoddwyr tân Gwylfa Las Gorsaf Dân Castell-nedd unwaith eto yn mynd i'r dŵr ar gyfer Ras Rafftiau flynyddol y Mwmbwls.
Yn dilyn llwyddiant eu hymddangosiad cyntaf yn 2024, mae'r tîm yn dychwelyd i godi arian ar gyfer dwy elusen:
- Gorsaf bad achub RNLI y Mwmbwls
- Elusen y Diffoddwyr Tân.
Mae'r ddau sefydliad yn chwarae rôl hanfodol wrth achub bywydau a chefnogi personél y gwasanaethau brys, ac mae'n anrhydedd i'r criw rhwyfo drostynt.
Cefnogwch y tîm trwy roi, rhannu neu eu cymeradwyo o'r lan.