Yn ddiweddar, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) wedi rhoi oddeutu 4,500 o eitemau o offer diffodd tân nad oeddent yn cael eu defnyddio mwyach i ddiffoddwyr tân yn ninas Manila yn Ynysoedd Philippines, trwy Operation Florian.
Mae Operation Florian wedi cael ei enwi ar ôl Sant Florian, nawddsant y diffoddwyr tân, ac fe’i sefydlwyd yn y Deyrnas Unedig ym 1995. Mae'r elusen yn hyrwyddo amddiffyn bywyd ledled y byd trwy ddarparu offer a hyfforddiant i wella galluoedd diffodd tân, cymorth cyntaf ac achub. Ar ôl mynd ag offer a gyfrannwyd i wledydd ledled y byd, mae timau Operation Florian yn aros gyda chriwiau tân lleol i ddarparu hyfforddiant a chefnogaeth i sicrhau eu bod yn gallu defnyddio’r hyn a ddarparwyd i’r eithaf.
Ddydd Iau, 7 Rhagfyr, ymwelodd aelodau tîm Operation Florian â Chanolfan Hyfforddi Tân Earlswood GTACGC i dderbyn rhodd o ddillad diffodd tân nad yw aelodau criwiau’r Gwasanaeth yn eu gwisgo mwyach. Llenwodd GTACGC ac aelodau tîm Operation Florian gynhwysydd cludo 40 troedfedd cyfan gyda thua 4,500 o eitemau o offer, gan gynnwys tiwnigau, legings, cyflau fflach a helmedau.
Dywedodd y Cydlynydd Cyfarpar Diogelu Personol (PPE), Nick McAllister, a oedd yn gyfrifol am drefnu'r rhodd ar ran GTACGC: