09.12.2024

Rôl Llysgennad Cymunedol

Ydych chi'n teimlo’n angerddol am wneud gwahaniaeth? Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn chwilio am Lysgenhadon Cymunedol, a fydd yn chwarae rhan allweddol wrth helpu'r Gwasanaeth i wella ei ddealltwriaeth a'i ddisgwyliadau o'i gymunedau.

Gan Rachel Kestin



Ydych chi'n teimlo’n angerddol am wneud gwahaniaeth? Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn chwilio am Lysgenhadon Cymunedol, a fydd yn chwarae rhan allweddol wrth helpu'r Gwasanaeth i wella ei ddealltwriaeth a'i ddisgwyliadau o'i gymunedau. Helpwch ni i wneud penderfyniadau gwybodus sy'n adlewyrchu diddordebau ac anghenion ein cymuned.

Mae'r Gwasanaeth yn cwmpasu bron i ddwy ran o dair o Gymru, gan wasanaethu ardal wledig yn bennaf o 4,500 milltir sgwâr (11,700 km²). Mae gennym 58 o orsafoedd ac rydym yn cyflogi tua 1,300 o staff. Dyma'r trydydd gwasanaeth tân mwyaf yn ôl ardal yn y Deyrnas Unedig, y tu ôl i Wasanaethau Tân ac Achub yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gartref i boblogaeth amrywiol ac amlddiwylliannol o tua 931,698 o bobl dros 432,791 o aelwydydd mewn chwe awdurdod lleol: Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys a Dinas a Sir Abertawe.

Mae ein cymunedau wrth galon popeth a wnawn. Rydym yn ymrwymo i amddiffyn a gwasanaethu ein cymuned ac rydym yn angerddol am sicrhau diogelwch a lles y dinasyddion rydym yn eu gwasanaethu. Rydym eisiau unigolion a all ein cefnogi i godi ymwybyddiaeth o'n gwaith ac ysbrydoli cymunedau i weithredu a rhannu eu barn. Mae ein llwyddiant i’r dyfodol yn dibynnu’n uniongyrchol ar sut rydym yn gweithio gydag eraill.

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd partneriaethau ystyrlon ac effeithiol a'r angen i ddatblygu a chynnal mentrau cydweithredol gyda rhanddeiliaid allweddol. Heb amheuaeth, gall gweithio ar y cyd ac mewn partneriaethau ein helpu i sicrhau gwell canlyniadau i'n cymunedau a chyfrannu at gyflwyno ein gwasanaethau mewn ffordd well, fwy cost-effeithiol ac effeithlon.

Disgrifiad o'r rôl:
Mae angen eich help chi arnon ni i lunio'r gwasanaethau rydym yn eu darparu! Mae sicrhau bod y cyhoedd yn cymryd rhan wrth wraidd unrhyw gamau i greu newid cadarnhaol, ac mae eich mewnwelediad a'ch barn chi yn bwysig. Gall eich cyfraniadau helpu i sbarduno newid cadarnhaol yn y gymuned, ein helpu i gynllunio ar gyfer ein gweithgaredd i’r dyfodol, gwella diogelwch y cyhoedd a lleihau difrifoldeb y digwyddiadau rydym yn eu cael eu galw iddynt.

Bydd y Llysgennad Cymunedol yn chwarae rhan ganolog wrth helpu i lunio'r gwasanaethau a ddarparwn a chynorthwyo i adeiladu amgylchedd cadarnhaol a chefnogol o fewn ein cymunedau. Byddwch yn gweithredu fel cyswllt rhwng y Gwasanaeth ac aelodau'r gymuned, gan helpu i gyfathrebu gwybodaeth bwysig, hyrwyddo cysylltiadau gyda'r gymuned a chynrychioli safbwyntiau'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Os ydych chi'n cynrychioli sefydliad lleol, busnes, grŵp cymunedol, neu'n aelod o'r gymuned, ac yr hoffech chi helpu i lunio dyfodol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, byddem wrth ein bodd pe baech yn cymryd rhan!

Mae'r rôl yn wirfoddol.   

Faint o ymrwymiad sydd ei angen?
Cymaint neu gyn lleied o amser ag y gallwch chi ei roi. Yn ddelfrydol, hoffem glywed gan bobl sy'n gallu ymrwymo ychydig o oriau bob chwarter (bydd hyn yn amrywio bob chwarter, yn dibynnu ar y dasg/menter) i weithio ar brosiectau ar gyfer y Gwasanaeth, mynychu cyfarfodydd a digwyddiadau lle bo angen.

Prif Gyfrifoldebau:

  • Sefydlu a chynnal perthynas gydag aelodau'r gymuned, sefydliadau lleol a rhanddeiliaid.
  • Helpu i gynllunio a gweithredu mentrau sy'n delio gydag anghenion a diddordebau’r gymuned.
  • Mynychu cyfarfodydd a chymryd rhan mewn trafodaethau ac ymgynghoriadau ar bynciau allweddol.
  • Rhoi adborth am ein deunyddiau ymgyrchu ac ymgysylltu a rhannu eich mewnbwn gwerthfawr.

       Buddion

  • Datblygiad personol;
  • Cyfleoedd dysgu;
  • Cwrdd â phobl newydd;
  • Cael effaith gadarnhaol ar y gymuned.

Ymholiadau
I gael rhagor o wybodaeth am y rôl hon, cysylltwch ag Amy Richmond-Jones, Rheolwr Ymgysylltu, Cynllunio a Pherfformiad drwy e-bostio a.richmond-jones@tancgc.gov.uk

Gwneud cais am y rôl
Dylech anfon eich datganiad o ddiddordeb at Amy Richmond-Jones Rheolwr Ymgysylltu, Cynllunio a Pherfformiad drwy e-bostio a.richmond-jones@tancgc.gov.uk

Cofiwch ein bod yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg, ac ni fydd unrhyw geisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

 

 

 

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf