03.07.2024

Rydyn Ni Am Eich Cadw Chi'n Ddiogel yr Haf Hwn!

Mae misoedd yr haf yma ynghyd â’r cyfle perffaith i fentro allan a mwynhau cefn gwlad neu draethau lleol.

Gan Rachel Kestin



Mae misoedd yr haf yma ynghyd â’r cyfle perffaith i fentro allan a mwynhau cefn gwlad neu draethau lleol. Yma yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru rydyn ni’n barod i roi ychydig o gyngor diogelwch hanfodol er mwyn sicrhau eich bod chi’n mwynhau’r haf yn ddiogel. P'un ai ydych chi wedi cynllunio gwyliau gartref, trip gwersylla neu ond yn gwneud y gorau o'r heulwen yn eich gardd gyda theulu a ffrindiau, mae gennym yr holl gyngor fydd ei angen arnoch i’ch cadw’n ddiogel!  

Meddai Pennaeth Corfforaethol Rheoli Risgiau Cymunedol, Peter Greenslade:

“Mae gan ardal ein Gwasanaeth rai lleoliadau gwych i dreulio'ch haf gyda'n harfordir helaeth a'n Parciau Cenedlaethol. Rydyn ni am i chi fwynhau'r awyr agored ac archwilio'r hyn sydd gan Ganolbarth a Gorllewin Cymru i'w gynnig, felly mae eich cadw chi a'ch teulu’n ddiogel yn allweddol i sicrhau ein bod i gyd yn cael Gwyliau Haf gwych.”



Mae ein gwefan yn cynnig rhai awgrymiadau diogelwch hanfodol o ddiogelwch gwersylla, diogelwch barbeciw, diogelwch dŵr ac aros yn ddiogel ar ein ffyrdd yn ystod yr haf.

Gallwch hefyd ein dilyn ni ar ein sianeli Cyfryngau Cymdeithasol am ragor o negeseuon diogelwch.

X - @mawwfire

Facebook - @mawwfire

Instagram - mawwfire_rescue

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf