Roedd saith cadét tân ymroddedig o Orsafoedd Tân Dyffryn Aman, Aber-craf, a Blaendulais yn falch o gynrychioli Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yng Ngemau Cadetiaid Tân 2025, a gynhaliwyd dros y penwythnos.
Cynhaliwyd y digwyddiad gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC), a hynny ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Roedd y digwyddiad tridiau o hyd yn dod â 31 tîm o gadetiaid o bob rhan o’r Deyrnas Unedig ynghyd ar gyfer dathliad o sgiliau, gwaith tîm, ac ysbryd cymunedol. Bu’r cadetiaid ifanc, sydd rhwng 13 ac 18 oed, yn cystadlu mewn cyfres o heriau egnïol oedd yn profi eu gwybodaeth am ddiffodd tanau, eu gallu corfforol, a’u sgiliau cyfathrebu o dan bwysau.
Dechreuodd y gemau gyda seremoni agoriadol ysbrydoledig, lle cafodd un o'n cadetiaid, Dillon o Aber-craf, yr anrhydedd o gario baner Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC), gan ymuno â chynrychiolwyr eraill mewn arddangosfa llawn balchder.

Yn ystod y seremoni agoriadol, cyhoeddwyd chwe chadét i gymryd rhan yn Nhaith Arweinwyr yr Angylion Tân, a gynhelir yn Sweden y flwyddyn nesaf. Rydym yn arbennig o falch o longyfarch y Cadét Annarose o Ddyffryn Aman, a fydd yn cynrychioli'r Gwasanaeth ar y daith ryngwladol hon. Mae'r rhaglen hon yn cynnig cyfle rhagorol i'r bobl ifanc hyn ddatblygu eu sgiliau arwain, magu hyder, a chael profiad bywyd amhrisiadwy. Edrychwn ymlaen at ddilyn eu taith a chlywed am eu hanturiaethau yn Sweden. Da iawn i bawb a gymerodd ran a dymuniadau gorau i Annarose a'i chyd-gadetiaid wrth iddynt baratoi ar gyfer yr her gyffrous hon!

Gan fod y gemau wedi cael eu hagor yn swyddogol, dechreuodd y diwrnod prysur o gystadlu, o adran dechnegol i gyngor ar Ddiogelwch Tân yn y Cartref, technegau Achub o Ddŵr a chyflwyniadau.
Bu’r cadetiaid hefyd yn cymryd rhan mewn cyfres o weithdai gyda’r Fire Angels Foundation, gweithgareddau adeiladu tîm heriol a oedd yn dangos eu sgiliau, eu disgyblaeth, a’u hymrwymiad i werthoedd y Gwasanaeth Tân. Dangosodd un o gadetiaid GTACGC, Erin, gyfeillgarwch ac ysbryd tîm gwych trwy gefnogi Cadetiaid Gogledd Cymru yn y prif ddigwyddiad technegol. Roedd eu perfformiad a’u hymddygiad yn destun clod iddynt hwy eu hunain ac i’w Hunedau Cadetiaid.