Ddydd Llun, Ebrill 28ain, bydd Tîm Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yng Nghartref Ymddeol Yr Aelwyd yng Nghaerfyrddin yn cynnig gwybodaeth a chyngor diogelwch rhag tân yn y cartref am ddim.
Rhwng 9.30yb a 8yh, bydd y Tîm Diogelwch Cymunedol lleol wrth law i drafod canllawiau diogelwch rhag tân yn y cartref a threfnu ymweliadau ‘Diogel ac Iach’. Bydd croeso cynnes i bawb.
Lleoliad: Cartref Ymddeol Yr Aelwyd, Tregynwr, Llangynnwr, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA31 2ED
Amser: 9.30yb – 8yh
Mwy o wybodaeth yma.