Ar 8 Hydref 2025, roedd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn falch o groesawu dirprwyaeth o swyddogion y Gwasanaeth Tân a gweithwyr hyfforddi proffesiynol o Awstralia a'r Iseldiroedd fel rhan o sesiwn rhannu gwybodaeth ryngwladol sy'n canolbwyntio ar ddiffodd tân mewn amgylcheddau adeiledig.
Cyflwynodd y swyddogion a oedd yn ymweld gyflwyniadau craff ar eu Hathrawiaethau Tactegol, gan gynnig safbwyntiau gwerthfawr yn seiliedig ar brofiad ac ymchwil fyd-eang. Roedd y sesiwn yn archwilio themâu gweithredol allweddol gan strategaethau, tactegau, tasgau, technegau, ac Egwyddorion Sylfaenol Diffodd Tân yr Iseldiroedd, gan feithrin cyfnewid cyfoethog o ran syniadau ac arferion gorau.
Dywedodd y Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Craig Flannery;