Ddydd Llun, 3 Mawrth, dechreuodd Sioe Deithiol Cydnerthedd Cenedlaethol Cymru yng Nghanolfan Hyfforddi Earlswood Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC).
Gan deithio ar draws y tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru - GTACGC, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (GTAGC) a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) – nod y sioe deithiol oedd cynyddu ymwybyddiaeth staff y Gwasanaeth o'r galluoedd a'r darpariaethau Cydnerthedd Cenedlaethol sydd ar gael yng Nghymru. Mae’r sioe deithiol, sy’n cael ei chyflwyno drwy gyfuniad o sesiynau damcaniaethol ac ymarferol, yn cyflwyno gwybodaeth am yr adnoddau a’r sgiliau sydd ar gael ledled Cymru i gynorthwyo mewn digwyddiadau ac i gefnogi’r Gwasanaeth Tân ac Achub lleol i ddatrys y cais gweithredol.
Cafodd staff y Gwasanaeth a aeth i ddigwyddiadau’r sioe deithiol drosolwg damcaniaethol a’r cyfle i wylio arddangosiad chwilio ac achub gan Chris a Cooper, Tîm USAR K9, a gwelsant y datblygiadau technolegol diweddaraf sydd ar gael i gynorthwyo wrth ymateb i ddigwyddiadau yn ymwneud â deunyddiau peryglus. Cyflwynwyd sesiynau gan yr Uned Ymateb i Ddeunyddiau Peryglus (HMRU) o Orsafoedd Tân Doc Penfro a Bae Colwyn, gyda chefnogaeth y Tîm Monitro Gwybodaeth am Ganfod (DIM), sydd wedi'i leoli o fewn GTADC. Roedd y diwrnod hefyd yn cynnwys arddangosiad o'r gwahanol gerbydau ac asedau sydd ar gael, megis peiriannau Pwmpio Cyfaint Uchel (HVP) a dronau chwilio ac achub.
Gall unrhyw un o dri Gwasanaeth Tân ac Achub Cymru ofyn i Dîm Cydnerthedd Cenedlaethol Cymru am gymorth mewn amryw o ddigwyddiadau, gan gynnwys strwythurau sydd wedi'u difrodi neu sy’n anniogel, canfod sylweddau peryglus, pobl sydd ar goll, achub pobl sydd wedi’u hanafu, dadheintio torfol a mwy.