04.12.2024

Siop Dros Dro Abertawe

Bydd aelodau o Dîm Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn Siop Dros Dro Canolfan Siopa'r Cwadrant yn Abertawe.

Gan Lily Evans



Bydd aelodau o Dîm Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn Siop Dros Dro Canolfan Siopa'r Cwadrant yn Abertawe.

Mae Heddlu De Cymru, mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe, wedi agor eu siop dros dro yn Abertawe i roi cyfle i'r cyhoedd siarad â swyddogion am gyngor atal troseddu dros gyfnod yr ŵyl.

Mae hyn yn rhan o ymgyrch ‘Cost y Nadolig sy'n archwilio'r canlyniadau posibl y gallai troseddu eu hachosi i chi.

Bydd Tîm Diogelwch Cymunedol Rhanbarth y De yn y siop dros dro rhwng 10am a 4pm bob dydd o'r wythnos tan 19 Rhagfyr yn darparu negeseuon diogelwch tymhorol, gweithgareddau diogelwch yn y cartref a phrofi blancedi trydan.

"Ces i fy nghyflwyno'n ddiweddar i Paul Evans, Cydlynydd Diogelwch Cymunedol Cyngor Abertawe. Cynigiodd y gallem ddefnyddio uned wag o fewn y Cwadrant i ymgysylltu â'r cyhoedd yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig ochr yn ochr â Heddlu De Cymru a sefydliadau eraill. Mae hwn yn gyfle gwych i GTACGC gynnig ymweliadau diogel ac iach, a byddwn hefyd yn dosbarthu pecynnau cynnes y gaeaf i'r rhai sy'n agored i niwed yn ein cymuned."

Dave Gates - Rheolwr Diogelwch Tân Cymunedol Rhanbarth y De



Dewch â'ch blancedi trydan gyda chi i’r tîm eu profi. Tra byddwch chi yno, gallwch hefyd gofrestru ar gyfer ymweliad diogel ac iach am ddim.

Dewch i ddweud helô!

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf