13.09.2024

Staff GTACGC yn cwblhau Her Tri Chopa Cymru!

Ddydd Sadwrn, 7 Medi, cymerodd 14 aelod o staff Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) ran yn Her Tri Chopa Cymru, gan gyrraedd copaon Pen y Fan, yr Wyddfa a Chader Idris o fewn 24 awr. 

Gan Rachel Kestin



Ddydd Sadwrn, 7 Medi, cymerodd 14 aelod o staff Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) ran yn Her Tri Chopa Cymru, gan gyrraedd copaon Pen y Fan, yr Wyddfa a Chader Idris o fewn 24 awr. 

Gyda chymysgedd o staff gweithredol a staff eraill, roedd yr her yn golygu cerdded am bellter o 17 milltir ac esgyniad o 2,334 metr, i gyd er mwyn codi arian hanfodol ac ymwybyddiaeth ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân a Swyn y Gwynt - Elusennau Iechyd Hywel Dda.

Profodd yr her eu galluoedd ac er sawl rhwystr, cwblhaodd y tîm cyfan yr her mewn amser clodwiw o 17 awr ac maent wedi codi £789 ar gyfer eu dewis elusennau.

Fe wnaeth y diffoddwr tân Josh Herman wthio'r her gam ymhellach drwy wisgo cit diffodd tân llawn ac offer anadlu ar ei gefn am y daith gyfan!

Dywedodd y diffoddwr tân Josh Herman:

"Roedd yr her yn anodd yn feddyliol ac yn gorfforol, ac roedd ei chwblhau mewn llai na 24 awr yn gamp enfawr i mi ac aelodau eraill y tîm. Hoffwn ddiolch i bawb am eu cefnogaeth yn ystod yr her; diolch yn fawr i bawb sydd wedi cyfrannu at elusen sy'n agos at fy nghalon a diolch enfawr i'm dyweddi am ei help a'i hanogaeth i daclo’r rhwystrau meddyliol a wynebais yn ystod yr her. Rwy'n gobeithio, drwy wneud yr her hon, fy mod wedi codi mwy o ymwybyddiaeth am 'Iechyd Meddwl Dynion' ac wedi ysbrydoli eraill i ddechrau siarad ac estyn allan am gymorth pan fydd ei angen arnynt."






Da iawn i bawb a gymerodd ran.

Os hoffech gyfrannu a dangos eich cefnogaeth, ewch i:  Mid and West Wales Fire and Rescue Service Fire Service is fundraising for Hywel Dda Health Charities (justgiving.com)

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf