10.12.2025

Taith Nadolig Gorsaf Dân Llanandras er budd y Banc Bwyd

Aeth Diffoddwyr Tân Gorsaf Dân Llanandras ar eu hail 'Siwrnai Siôn Corn' yn ddiweddar er budd banc bwyd lleol.

Gan Steffan John



Aeth Diffoddwyr Tân Gorsaf Dân Llanandras ar eu hail 'Siwrnai Siôn Corn' yn ddiweddar er budd banc bwyd lleol.

Bu Diffoddwyr Tân Llanandras, gydag un ohonyn nhw wedi gwisgo fel Siôn Corn, yn teithio trwy’r dref a’r pentrefi cyfagos mewn injan dân er mwyn rhannu hwyl yr ŵyl ac i gasglu eitemau gan y trigolion lleol i’w rhoi i fanc bwyd Tref-y-clawdd a Llanandras.

Mae Banc Bwyd Tref-y-clawdd a Llanandras yn brosiect cymunedol sy'n cefnogi unigolion a theuluoedd sy'n wynebu newyn neu argyfwng ar draws ardal Tref-y-clawdd, Llanandras a Dwyrain Maesyfed.  Mae'r Banc Bwyd hefyd yn rhoi gwasanaeth allgymorth hanfodol yn Llanandras sy'n sicrhau bod help yn cyrraedd y rhai sydd ei angen fwyaf.



Dywedodd Helen, Rheolwr Banc Bwyd Tref-y-clawdd a Llanandras:

“Mae'r criw o Orsaf Dân Llanandras wedi bod yn anhygoel, ac rydyn ni mor ddiolchgar am eu cefnogaeth.  Rydw i wedi cael negeseuon amdano gan sawl teulu, a lluniau o'r plant wrth eu boddau’n cwrdd â Siôn Corn.”



Trwy gynnal y Siwrnai Siôn Corn ar gyfer y Banc Bwyd, mae Gorsaf Dân Llanandras yn dangos eu hymrwymiad dwfn i'r gymuned, gan ymateb mewn cyfnod o argyfwng a chan gefnogi mentrau lleol drwy gydol y flwyddyn.

Mae'r criw yng Ngorsaf Dân Llanandras a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi cefnogi a chyfrannu at Siwrnai Siôn Corn.







Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol