16.01.2024

Tân Mewn Tafarn yn Niwgwl

Ddydd Mawrth, Ionawr 16eg, cafodd criwiau Tyddewi, Hwlffordd, Aberdaugleddau ac Abergwaun eu galw i ddigwyddiad yn Niwgwl, Sir Benfro.

Gan Rachel Kestin



Ddydd Mawrth, Ionawr 16eg, cafodd criwiau Tyddewi, Hwlffordd, Aberdaugleddau ac Abergwaun eu galw i ddigwyddiad yn Niwgwl, Sir Benfro.

Ymatebodd criwiau i dân o fewn adeiladu deulawr yn mesur tua 15 metr wrth 30 metr a’i defnyddiwyd fel tafarn gyda llety uwchben.  Roedd y tân wedi llosgi trwy do’r adeilad a defnyddiodd criwiau dair chwistrell olwyn piben, dwy brif chwistrell, un ysgol saith metr, pedair set offer anadlu, un camera delweddu thermol, un tancer dŵr ac un ffan awyru pwysau positif i ddiffodd y tân.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf