Ddydd Mercher, Chwefror 21ain, cafodd criwiau Llanelli, Y Tymbl, Gorseinon, Pontiets, Caerfyrddin a Threforys eu galw i ddigwyddiad ym Min y Môr yn Llanelli.
Ymatebodd criwiau i dân o fewn eiddo deulawr yn mesur tua 5 metr wrth 4 metr. Defnyddiodd criwiau 14 set o offer anadlu, dwy brif chwistrell, dwy chwistrell olwyn piben, pedwar camera delweddu thermol, dwy ysgol saith metr o hyd ac un peiriant ysgol trofwrdd i ddiffodd y tân. Cafodd yr eiddo ei ddinistrio’n llwyr gan y tân. Gadawodd y criwiau am 10.49yh.
Am 12.31yb ddydd Iau, Chwefror 22ain, gwnaeth criw Llanelli ail ymweld â’r eiddo ar ôl i dulathau’r to ailgynnau. Defnyddiodd y criwiau un chwistrell olwyn piben, un ysgol saith metr o hyd ac un camera delweddu thermol i ddiffodd y tân.
Am 5yb, ail-archwiliwyd tri eiddo gan ddefnyddio camerâu delweddu thermol, ni chafwyd hyd i unrhyw fannau poeth. Roedd Heddlu-Dyfed Powys hefyd yn bresennol.