Mae’r criw yng Ngorsaf Dân Gorllewin Abertawe wedi croesawu recriwtiaid newydd yn ddiweddar – eirth tedi wedi’u gwneud â llaw!
Yn ddiweddar, mae Diffoddwyr Tân yng Ngorsaf Dân Gorllewin Abertawe wedi derbyn casgliad o eirth bach sydd wedi cael eu gwneud a'u rhoi'n garedig gan y grŵp lleol 'Craft and Natter with Friends’.
Mae gan y grŵp tua 30 o aelodau ac mae'n cyfarfod bob mis am sesiynau hamddenol ac anffurfiol yn nhafarn Woodman gerllaw yn Blackpill. Mae aelodau'r grŵp yn gweithio i greu eitemau ar gyfer sawl achos da, gan gynnwys Project Linus UK, Unedau Gofal Arbennig i Fabanod, elusennau dementia ac, yn fwyaf diweddar, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC). Ymwelodd Jan Kerslake, aelod o'r grŵp, â Gorsaf Dân Gorllewin Abertawe yn ddiweddar i gwrdd â'r criw ac i roi'r casgliad o eirth sydd wedi'u creu.
'Tedis Trawma'
Bydd y tedis sydd wedi’u creu gan y grŵp Craft and Natter with Friends, sy’n cael eu hadnabod fel Tedis Trawma, yn cael eu cadw ar injans tân a’u rhoi i blant a phobl ifanc mewn digwyddiadau mae GTACGC yn eu mynychu. Yn aml, gall y digwyddiadau hyn fod yn llethol a brawychus, ac yn brofiadau anghyfarwydd, a’r gobaith yw y bydd y tedis a ddosbarthir gan griwiau GTACGC yn dod â rhywfaint o gysur i’r plant a’r bobl ifanc, ac yn lleddfu unrhyw drallod lle bo modd.
Mae criwiau o bob cwr o ardal gwasanaeth GTACGC yn aml yn derbyn rhoddion o Dedis Trawma, sy'n un enghraifft o'r gefnogaeth barhaus y mae GTACGC yn ei derbyn gan y cymunedau y mae'n eu gwasanaethu.
Mae GTACGC yn ddiolchgar iawn am y rhodd hael o dedis a’r cefnogaeth gan y grŵp Craft and Natter with Friends.