08.01.2026

Tîm Chwilio ac Achub Trefol Cymru yn Hyfforddi yn yr Amgueddfa Awyrennau

Croesawodd Amgueddfa Awyrennau De Cymru Dîm Chwilio ac Achub Trefol Cymru ddechrau mis Rhagfyr i ymarfer hyfforddi cynhwysfawr ar y cyd er mwyn cryfhau galluoedd ymateb mewn digwyddiadau sy'n gysylltiedig ag awyrennau.

Gan Steffan John



Croesawodd Amgueddfa Awyrennau De Cymru (SWAM) dîm Chwilio ac Achub Trefol Cymru (ChAT Cymru) ddechrau mis Rhagfyr i ymarfer hyfforddi cynhwysfawr ar y cyd er mwyn cryfhau galluoedd ymateb mewn digwyddiadau sy'n gysylltiedig ag awyrennau.

Mae Tîm ChAT Cymru, yn allu arbenigol ar y cyd gan GTACGC a GTADC ar ran y tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru. Mae e’n dod â phersonél hyfforddedig iawn, cŵn chwilio, dronau ac offer achub trwm i ddarparu ymateb 24/7 i ddigwyddiadau mawr i gefnogi cydnerthedd cenedlaethol a chymorth rhyngwladol.

Rhoddodd arbenigwyr yr amgueddfa ganllawiau am y peryglon sy'n gysylltiedig ag awyrennau sifil a milwrol, gan rannu gwybodaeth weithredol na ellir ei hailadrodd mewn amgylcheddau hyfforddi safonol.

Galluogodd y maes hyfforddi unigryw i bedwar ar ddeg o dechnegwyr ChAT ymarfer gweithdrefnau confoi, sefydlu safle cychwynnol, a defnyddio Systemau Lobo ar dir caled a meddal ill ddau ar gyfer amrywiaeth o awyrennau – gan gynnwys jetiau hyfforddi bach megis y Gnat a llwyfannau mwy gan gynnwys yr RAF Avro Shackleton, a ymddeolodd ym 1991 ar ôl mwy na 40 mlynedd o wasanaeth.

Roedd Lobo Systems, twr modiwlaidd a llwyfannau mynediad, yn ganolog i'r hyfforddiant ac fe ddangoson nhw eu gallu i ddarparu modd i weithio’n ddiogel ar uchder hyd at tua chwe metr. Mae eu dyluniad addasadwy yn darparu llwybrau mynediad diogel a llwybrau cerdded sefydlog, gan gefnogi tasgau adfer technegol wrth sicrhau cadw tystiolaeth hanfodol yn ystod ymchwiliadau ar ôl digwyddiad.





Dywedodd Cynghorydd Gallu ChAT Cymru, y Rheolwr Gorsaf Gareth Lewis:

"Hoffem fynegi ein diolch diffuant i Amgueddfa Hedfan De Cymru (SWAM) am gynnal Tîm ChAT Cymru.

Mae cael cyfle i hyfforddi mewn amgylchedd mor unigryw a realistig, ynghyd â pharodrwydd staff yr amgueddfa i rannu eu profiad uniongyrchol o ddigwyddiadau sy'n cynnwys awyrennau, wedi bod yn amhrisiadwy.

Mae eu gwybodaeth a'u harweiniad yn gwella ein parodrwydd a'n diogelwch, ac rydym hefyd yn ddiolchgar iawn am y croeso cynnes a'r lletygarwch gwirioneddol a ddangoswyd gan bawb yn Amgueddfa Awyrennau De Cymru (SWAM) yn ystod y diwrnod.”





Mae'r tîm yn parhau i integreiddio lleoliadau hyfforddi amlasiantaeth arbenigol i'w ddatblygiad gweithredol, gan sicrhau y byddai criwiau'n parhau’n barod i gefnogi gwasanaethau tân ac achub lleol pe byddai argyfwng awyren go iawn yn digwydd.



Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf