Ddydd Llun, 22 Ebrill, daeth aelodau tîm Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) ynghyd i gael hyfforddiant Diogelwch Dŵr ar afon Teifi yn Llandysul.
Trefnwyd y sesiwn gan y rheolwr Hyfforddi Achub Technegol, Darren Wilson, ac fe’i rhannwyd yn ddwy sesiwn. Yn y bore, cafwyd cyflwyniad gan ymatebydd cyntaf GTACGC sydd wedi cael hyfforddiant Achub o Ddŵr sy’n Llifo’n Gyflym, a oedd yn trafod pwysigrwydd diogelwch dŵr, y peryglon cyffredin a geir mewn dŵr, technegau atal boddi, a dulliau sylfaenol i achub eich hun ac eraill o ddŵr.
Yn y prynhawn, bu’r tîm Diogelwch Cymunedol yn gwneud gweithgareddau ymarferol fel ymarfer achub o’r lan, technegau estyn a thaflu, diogelu pobl sydd wedi’u hanafu, a hyfforddiant ar ba effeithiau ffisiolegol y gall sioc dŵr oer eu cael ar y corff wrth fynd i mewn i ddŵr oer. Fe ddysgodd pawb sut i ddefnyddio offer diogelwch dŵr yn gywir ac yn gyflym mewn argyfwng.