Bu aelodau o Dîm Diogelwch Cymunedol y Gwasanaeth yn mynychu digwyddiad ‘Pobl Sy’n Ein Helpu Ni’ ddydd Iau, Awst 15fed, a drefnwyd gan Dîm Integreiddio’r Blynyddoedd Cynnar Cwm Gwendraeth.
Wedi’i chynnal yn Neuadd y Gwendraeth yn Nrefach, rhoddodd y digwyddiad gyfle i blant ifanc a’u teuluoedd gwrdd â phersonél o’r gwasanaethau brys, a oedd yn cynnwys Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Heddlu Dyfed-Powys ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.