Yn ddiweddar, daeth aelodau timau chwilio ac achub domestig a rhyngwladol y DU at ei gilydd i gynnal hyfforddiant arbenigol iawn ym mhrifddinas Cymru.
Mae timau Chwilio ac Achub Trefol (USAR) a Chwilio ac Achub Rhyngwladol (ISAR) fel arfer yn cael eu defnyddio yn sgil digwyddiadau megis trychinebau naturiol neu weithredoedd terfysgol, ac maent yn gyfrifol am ddod o hyd i bobl sy’n sownd a'u rhyddhau.
Rhwng dydd Llun yr 22ain o Ebrill a Dydd Mercher y 24ain o Ebrill, bu timau o bob rhan o’r DU yn ymgynnull yng Nghaerdydd a Chaerloyw ar gyfer ymarferion hyfforddi, gan deithio o ganolfannau’r gwasanaeth tân yn Swydd Essex, Swydd Caint, Hampshire, Swydd Gaerhirfryn, Swydd Lincoln, Glannau Mersi, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yr Alban, De Cymru, a Chanolbarth a Gorllewin Cymru.
Gan ddefnyddio ysbyty’r Mynydd Bychan a Stadiwm Principality Caerdydd ill ddau, cynhaliodd y timau ymarferion cŵn ac ymarferion drôn fel rhan o hyfforddiant arferol sy’n hanfodol i’w cynorthwyo â’u hymdrechion chwilio ac achub. Gyda chymorth wyth ci synhwyro arbenigol iawn ac offer drôn o’r radd flaenaf, bu’r tîm yn ymarfer hyfforddiant chwilio ac achub trefol dros dri diwrnod.
Dywedodd Kevin Dite, Rheolwr Gwylfa Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ac aelod o dîm Chwilio ac Achub Trefol a Chwilio ac Achub Rhyngwladol: