Bydd Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân yn lansio eu hymgyrch #DeallPeryglonDŵr yr wythnos hon.
Yn 2022, boddodd 266 o bobl ar ddamwain yn y DU. Byddai wedi bod yn bosibl atal y trychinebau hyn rhag digwydd, ac felly mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ymuno yn yr alwad ar i bobl fod yn ddiogel pan fyddant yn y dŵr neu o’i gwmpas.
Bydd ymgyrch #DeallPeryglonDŵr Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân (NFCC) yn digwydd rhwng 22 – 28 o Ebrill. Y nod yw gwella ymwybyddiaeth pobl o’r perygl o foddi ar ddamwain yn ogystal â rhannu cyngor diogelwch cyn i’r tywydd gynhesu.
O’r rhai a foddodd ar ddamwain yn 2022, yn ôl yr ystadegau doedd gan 40% ohonynt ddim math o fwriad mynd i mewn i’r dŵr. Yn aml, llithro, baglu neu gwympo a berodd i’r damweiniau hyn ddigwydd.
Hefyd, dyw llawer ddim yn ymwybodol o beryglon neidio i’r dŵr neu drochi er mwyn oeri, yn enwedig os nad oes ganddynt lawer o brofiad o nofio y tu allan. Gall sioc dŵr oer neu beryglon o dan yr wyneb beri i nofwyr cryf fynd i drafferthion, hyd yn oed.
Dynion yw 87% o'r rhai sy’n marw ar ddamwain fel hyn, ac mae 60% o achosion yn digwydd mewn dyfroedd mewndirol fel afonydd, cronfeydd dŵr a llynnoedd.
Dywedodd Richie Felton, Pennaeth Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: