15.11.2024

Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd 17-23 Tachwedd 2024

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cefnogi ymgyrch Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd elusen Brake, ar y thema 'Ar ôl y ddamwain – Mae pob dioddefwr ffordd yn cyfrif', ac yn annog pobl i arafu a chadw at y terfynau cyflymder.

Gan Rachel Kestin



Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cefnogi ymgyrch Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd elusen Brake, ar y thema 'Ar ôl y ddamwain – Mae pob dioddefwr ffordd yn cyfrif', ac yn annog pobl i arafu a chadw at y terfynau cyflymder.

Bob blwyddyn, mae dros 1,700 o bobl yn marw ar ffyrdd y Deyrnas Unedig. Mae 30,000 o bobl eraill yn dioddef anafiadau difrifol sy'n newid eu bywydau. Ers mis Ionawr 2024 mae GTACGC wedi eu galw i 658 o wrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd.

Mae damweiniau ffordd yn ddigwyddiadau dychrynllyd i'r teuluoedd y maent yn effeithio arnynt. Maen nhw'n taro calon cymunedau ac mae’r sioc yn ymledu ar draws ein hysgolion, yn y gweithle ac yn y cartref.

Rydym yn apelio ar bawb i gymryd gofal ychwanegol wrth yrru, yn enwedig yn yr amodau gaeafol sydd ar ddod. Wrth yrru yn y gaeaf mae'n hanfodol eich bod yn cadw eich hun ac eraill yn ddiogel trwy:

  • Cadw mwy o bellter rhyngoch chi a'r cerbyd o'ch blaen. Gall pellteroedd stopio fod yn hirach pan fydd y ffordd yn wlyb, dan eira neu'n rhewllyd. Cynyddwch y rheol 2 eiliad i 4 eiliad neu hyd yn oed mwy. Ewch i Reolau'r Ffordd Fawr ar-lein i gael rhagor o wybodaeth am Bellteroedd Stopio (yn agor mewn tab/ffenestr newydd).
  • Rhowch amser ychwanegol ar gyfer eich taith.
  • Cadwch fatri eich ffôn symudol yn llawn, ond peidiwch byth â'i ddefnyddio wrth yrru.
  • Ar ddiwrnodau oerach, byddwch yn arbennig o ofalus: gall ffyrdd gwledig, coed a gwrychoedd atal yr haul rhag cyrraedd arwynebau ffyrdd, a all fod yn rhewllyd o hyd pan fydd popeth o gwmpas wedi dadmer.


Meddai Bethan Gill, Arweinydd Diogelwch Cymunedol Canolog:

"Yn rhy aml o lawer, rydym yn gweld canlyniadau dinistriol gwrthdrawiadau traffig ffyrdd a'r effaith y mae'n ei chael ar gydweithwyr, ffrindiau a'n cymunedau. Mae gwneud amser a pharatoi ar gyfer eich taith yn allweddol. Mae rhoi ychydig o amser ychwanegol i chi'ch hun yn lleihau'r pwysau i dorri'r gyfraith a goryrru, sy’n creu’r risg o gael pwyntiau ar eich trwydded, dirwyon neu waeth. Cofiwch mai terfynau yw cyfyngiadau cyflymder, ac nid targedau i anelu atynt.”



Am ragor o gyngor ar Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd Brake, ewch i: Road Safety Week | Brake

Am fwy o wybodaeth am sut i gadw'n ddiogel ar y ffyrdd, ewch i'n gwefan: Ar y Ffordd - Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (mawwfire.gov.uk)


Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf