06.09.2024

Wythnos Diogelwch Nwy 2024

Mae GTACGC wedi addo cefnogi Wythnos Diogelwch Nwy (9-15 Medi 2024) a bydd yn rhannu negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd diogelwch nwy.

Gan Rachel Kestin



Mae GTACGC wedi addo cefnogi Wythnos Diogelwch Nwy (9-15 Medi 2024) a bydd yn rhannu negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd diogelwch nwy.

Mae Wythnos Diogelwch Nwy yma i atgoffa'r cyhoedd sut i’w cadw eu hunain yn ddiogel rhag nwy, ac mae sefydliadau ledled y wlad yn cydweithio i godi ymwybyddiaeth o beryglon offer nwy sydd wedi’u cynnal a’u cadw’n wael, a all achosi gollyngiadau nwy, tanau, ffrwydradau a gwenwyno carbon monocsid (CO).

Eleni ar gyfer Wythnos Diogelwch Nwy, y thema yw 'Gwirio—Mae Pob Gwiriad yn Cyfrif', gan bwysleisio pwysigrwydd gwiriadau diogelwch nwy rheolaidd, ymysg pethau eraill. Mae'r thema’n amlygu arwyddocâd archwilio pob teclyn nwy ac annog pobl i flaenoriaethu diogelwch nwy yn eu cartrefi. Drwy ddangos pa mor bwysig yw pob gwiriad, nod Wythnos Diogelwch Nwy yw codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo mesurau i sicrhau diogelwch a lles aelwydydd.  

Dywedodd Wayne Thomas, Rheolwr Diogelwch yn y Cartref:

"Mae pobl yn aml yn meddwl mai dim ond eu boeleri sydd angen eu gwasanaethu unwaith y flwyddyn, ond rydym yn argymell y dylai pob teclyn yn eich cartref gael ei wirio’n rheolaidd gan beiriannydd diogelwch nwy. Mae hyn yn cynnwys offer fel eich hob, eich ffwrn, neu eich gwresogydd nwy, ynghyd â'ch offer gwres canolog."



Dywedodd Jonathan Samuel, Prif Swyddog Gweithredol y Gofrestr Diogelwch Nwy:

"Dyma'r pedwerydd tro ar ddeg inni gynnal Wythnos Diogelwch Nwy a thema 2024 yw Gwirio—Mae pob Gwiriad yn Cyfrif. Bydd yr wythnos yn annog gwirio, mewn sawl ffordd, ac yn taflu goleuni ar bwysigrwydd diogelwch nwy wrth ein cadw ein hunain a'n cymuned yn ddiogel. Drwy gydol Wythnos Diogelwch Nwy, bydd ein partneriaid, rhanddeiliaid a'r Gofrestr Diogelwch Nwy yn rhannu gwybodaeth i helpu pawb i fod yn ddiogel o ran nwy, felly rwy'n falch iawn o gael cefnogaeth GTACGC i helpu i rannu'r negeseuon hynny, megis gwirio'r Gofrestr Diogelwch Nwy i sicrhau bod eich peiriannydd wedi'i gofrestru ac yn gymwys."



Drwy ofalu am eich offer nwy yn iawn, rydych chi’n gofalu am eich cartref a'ch anwyliaid. Waeth pa mor fawr neu fach, mae pob gwiriad yn cyfrif. Dyma ganllaw i rai gwiriadau syml y gallwch eu gwneud gartref:

  • Gwiriwch eich bod wedi cael gwiriad diogelwch nwy blynyddol. Dylai offer nwy gael eu gwirio o safbwynt diogelwch unwaith y flwyddyn a'u gwasanaethu'n rheolaidd gan beiriannydd cofrestredig Diogelwch Nwy. Denantiaid, gofalwch fod eich landlord yn trefnu hyn.
  • Gwiriwch fod eich peiriannydd wedi’i gofrestru gyda Diogelwch Nwy. Defnyddiwch beiriannydd cofrestredig Diogelwch Nwy bob amser a sicrhau eu bod yn gymwys ar gyfer y gwaith sydd angen ei wneud drwy wefan y Gofrestr Diogelwch Nwy a thrwy gael gweld cerdyn adnabod y peiriannydd.
  • Gwiriwch am arwyddion rhybudd a allai ddangos nad yw eich offer nwy yn gweithio'n gywir. Gall yr arwyddion gynnwys fflamau melyn/oren diog yn hytrach na rhai glas clir, marciau du ar neu o amgylch yr offeryn, golau peilot sy'n diffodd o hyd, gormod o gyddwysiad yn yr ystafell, neu negeseuon gwall ar banel rheoli'r offeryn.
  • Gwiriwch nad yw fentiau neu ffliwiau wedi'u blocio. Mae fentiau a ffliwiau yno i sicrhau bod eich offer nwy yn gweithio'n ddiogel. Gallai eu blocio atal hyn.
  • Gwiriwch eich gwybodaeth. Cofiwch chwe phrif symptom gwenwyn carbon monocsid: cur pen, pendro, diffyg anadl, cyfog, llewygu, a cholli ymwybyddiaeth.
  • Gwiriwch eich larwm carbon monocsid (CO). Mae cynnal profion rheolaidd yn sicrhau bod larymau yn weithredol ac yn gallu eich rhybuddio am bresenoldeb CO marwol. Hefyd, gwiriwch eu bod wedi'u marcio â safonau EN50291 ac yn dal i fod yn gyfredol o ran dyddiad (os yw hynny’n berthnasol).
  • Gwiriwch cyn gwneud gwaith DIY. Cyn drilio neu ddefnyddio morthwyl, gwiriwch nad oes unrhyw risg o daro pibell nwy. Peidiwch byth â gwneud gwaith DIY ar declyn nwy; os ydych chi’n amau bod rhywbeth o'i le ar y teclyn neu nad yw'n gweithio'n iawn, ffoniwch beiriannydd cofrestredig Diogelwch Nwy. Gallwch ddod o hyd i un yn GasSafeRegister.co.uk neu ffoniwch 0800 408 5500.

Y Gofrestr Diogelwch Nwy yw'r gofrestr swyddogol ar gyfer peirianwyr sydd â chymwysterau cyfreithiol. Gallwch ddod o hyd i beiriannydd cofrestredig yn eich ardal drwy ymweld â gwefan y Gofrestr Diogelwch Nwy ar GasSafeRegister.co.uk.

Am fwy o wybodaeth am ddiogelwch yn y cartref, ewch i: Yn y Cartref (mawwfire.gov.uk)

#GSW24 #WythnosDiogelwchNwy

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf