16.12.2024

Wythnos Peidiwch ag yfed a boddi 12 – 18 Rhagfyr 2024

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn cefnogi ymgyrch Nadolig cenedlaethol Cymdeithas Frenhinol Achub Bywyd y DU (RLSS UK), 'Peidiwch ag Yfed a Boddi' ac yn annog myfyrwyr i gadw'n ddiogel ac yn bell o'r dŵr dros yr ŵyl hon.

Gan Rachel Kestin



Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn cefnogi ymgyrch Nadolig cenedlaethol Cymdeithas Frenhinol Achub Bywyd y DU (RLSS UK), 'Peidiwch ag Yfed a Boddi' ac yn annog myfyrwyr i gadw'n ddiogel ac yn bell o'r dŵr dros yr ŵyl hon.

Mae'r ymgyrch yn targedu'r rhai 18-25 oed yn benodol, fel 46% o'r achosion o foddi damweiniol yn y grŵp oedran hwn yn cynnwys alcohol a/neu gyffuriau.  Mae'r ymgyrch yn annog unigolion i gymryd cyfrifoldeb am eu ffrindiau pan fyddan nhw dan ddylanwad alcohol a/neu gyffuriau, gan eu helpu i osgoi llwybrau peryglus ar ddŵr a chyrraedd adref yn ddiogel.

Fel rhan o'r ymgyrch genedlaethol Peidiwch ag Yfed a Boddi, a gynhelir gan y Gymdeithas Achub Bywyd Frenhinol y DU (RLSS UK), mae GTACGC yn annog myfyrwyr i wneud dewisiadau da, gofalu am ei gilydd a sicrhau bod eu ffordd adref ar ôl noson allan yn bell o’r dŵr. 

Dywedodd Bethan Gill – Arweinydd Diogelwch Cymunedol Canolog yn GTACGC:

"Mae pobl yn marw’n drasig bob blwyddyn am eu bod wedi mynd i mewn i'r dŵr o dan ddylanwad, weithiau'n fwriadol neu'n amlach, ar ddamwain. Gall alcohol a chyffuriau atal eich gallu i oroesi mewn dŵr yn ddifrifol. Os ydych wedi cael diod, cadwch yn ddigon pell o'r dŵr. "Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n boddi pan o dan ddylanwad, wedi gwneud hynny drwy syrthio i mewn wrth gerdded ar eu pennau eu hunain ger dŵr. “Rydyn ni’n gwybod bod pawb yn edrych ymlaen at fwynhau nosweithiau allan yr adeg yma o’r flwyddyn, ac rydyn ni’n gofyn am ‘angylion gwarcheidiol’ i gadw golwg; os oes rhywun yn gadael eich tŷ chi dan ddylanwad yna gwnewch yn siŵr bod ganddyn nhw lwybr diogel adref #ByddYnFfrind”.



Eleni, nod RLSS UK yw parhau i ostwng cyfradd marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol mewn digwyddiadau trasig y gellir eu hosgoi fel arfer.

Mae'r Elusen yn gwthio eu neges #ByddYnFfrind drwy annog pobl i:

  • Ofalu am eich ffrindiau, gwnewch yn siŵr eu bod yn cyrraedd adref yn ddiogel.
  • Os ydych wedi cael diod, cadwch draw o'r dŵr.
  • Dewch o hyd i ffordd arall adref, peidiwch â cherdded adref ger y dŵr.
  • Cadwch yn ddigon pell o'r dŵr yn y gaeaf, mae sioc dŵr oer yn lladd.

I gael rhagor o wybodaeth am ymgyrch Peidiwch ag Yfed a Boddi RLSS UK, ewch i www.rlss.org.uk.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf