03.12.2025

Wythnos Peidiwch ag Yfed a Boddi RLSS (6-12 Rhagfyr 2025)

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn cefnogi ymgyrch Nadolig genedlaethol 'Peidiwch ag Yfed a Boddi' Cymdeithas Frenhinol Achub Bywyd y DU (RLSS UK) ac yn annog myfyrwyr i gadw'n ddiogel ac yn glir o'r dŵr dros gyfnod yr

Gan Rachel Kestin



Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn cefnogi ymgyrch Nadolig genedlaethol 'Peidiwch ag Yfed a Boddi' Cymdeithas Frenhinol Achub Bywyd y DU (RLSS UK) ac yn annog myfyrwyr i gadw'n ddiogel ac yn glir o'r dŵr dros gyfnod yr ŵyl eleni.

Mae'r ymgyrch yn targedu'n benodol y rhai 18-25 oed, gan fod 46% o foddi damweiniol yn y grŵp oedran hwn yn ymwneud ag alcohol a/neu gyffuriau. Mae'r ymgyrch yn annog unigolion i gymryd cyfrifoldeb am eu ffrindiau pan fyddant dan ddylanwad alcohol a/neu gyffuriau, gan eu helpu i osgoi llwybrau peryglus ger y dŵr a dychwelyd adref yn ddiogel.

Fel rhan o'r ymgyrch genedlaethol Peidiwch ag Yfed a Boddi, a gynhelir gan RLSS y DU, mae GTACGC yn annog myfyrwyr i wneud dewisiadau da, gofalu am ei gilydd a sicrhau bod llwybrau adref ar ôl noson allan i ffwrdd o'r dŵr.

Dywedodd Rob Tovey – arweinydd Diogelwch Dŵr GTACGC:



“Bob blwyddyn, mae bywydau’n cael eu colli’n drasig pan fydd pobl yn mynd i mewn i’r dŵr tra eu bod nhw dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau – weithiau’n fwriadol, ond yn amlach ar ddamwain. Gall sylweddau leihau’n sylweddol eich gallu i aros yn ddiogel a goroesi mewn dŵr.”

“Mae’r rhan fwyaf o achosion o foddi sy’n gysylltiedig ag alcohol yn digwydd pan fydd rhywun yn cwympo i ddŵr yn annisgwyl, yn aml wrth gerdded adref ar ei ben ei hun ger y dŵr. Os ydych chi wedi bod yn yfed, y dewis mwyaf diogel yw cadw draw o'r dŵr."

"Wrth i dymor yr ŵyl nesáu, rydyn ni'n gwybod bod yna edrych ymlaen at nosweithiau allan. Dyna pam rydyn ni'n gofyn i 'gyfaill' gamu ymlaen - os yw ffrind yn mynd adref ar ôl yfed, gwnewch yn siŵr bod ganddyn nhw lwybr diogel. Edrychwch ar ôl eich gilydd, mae’n bwysig #BodYnFfrind”

 



Eleni, nod RLSS UK yw parhau i ostwng cyfradd marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol mewn digwyddiadau trasig y gellir eu hosgoi fel arfer. Bydd neges eu hymgyrch #BodYnFfrind yn annog pobl i:

  • Ofalu am eich ffrindiau, a gwneud yn siŵr eu bod yn cyrraedd adref yn ddiogel.
  • Os ydych chi wedi cael diod, cadwch draw o'r dŵr.
  • Dewch o hyd i lwybr arall adref, peidiwch â cherdded adref ger y dŵr.
  • Cadwch i ffwrdd o'r dŵr yn y gaeaf, mae sioc dŵr oer yn lladd.


I gael rhagor o wybodaeth am ymgyrch Peidiwch ag Yfed a Boddi RLSS UK, ewch i www.rlss.org.uk.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf