Mae’n Wythnos Ryngwladol Ystafelloedd Rheoli yr wythnos hon, ac rydym yn talu teyrnged i'n Gweithredwyr Canolfan Rheoli Tân ar y Cyd anhygoel!
Dyma’r bobl sy’n ateb y galwad, yn llythrennol.  Pan mae rhywun yn ffonio 999 yn ystod argyfwng, ein Gweithredwyr Rheoli Tân sy’n codi’r ffon ac yn cynnig llais o sicrwydd yn yr eiliadau tywyllaf.
Yn aml, maen nhw’n darparu cyngor achub bywyd, yn rheoli sawl digwyddiad ar yr un pryd, yn cefnogi ein Diffoddwyr Tân ac yn sicrhau bod yr adnoddau cywir yn y lle cywir ar yr amser cywir.  Does dim modd gorbwysleisio eu cyfraniad i gadw ein cymunedau’n ddiogel.  DIOLCH!
Yn ddiweddar, bu Pennaeth Corfforaethol Ymateb Brys y Gwasanaeth, Y Rheolwr Ardal Siôn Slaymaker, ymweld â’r Canolfan Rheoli Tân i gwrdd â’r tîm yna.  Gwyliwch y fideo isod.