16.05.2025

Y Diffoddwr Tân Ed Smith yn Dathlu 10 Mlynedd o Wasanaeth

Mae'r Diffoddwr Tân Ed Smith, o Orsaf Dân Aberdaugleddau, wedi nodi 10 mlynedd o wasanaeth yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Gan Steffan John



Mae'r Diffoddwr Tân Ed Smith, o Orsaf Dân Aberdaugleddau, wedi nodi 10 mlynedd o wasanaeth yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC).

Dechreuodd y Diffoddwr Tân Smith ei yrfa yn GTACGC fel Diffoddwr Tân Ar Alwad, cyn dod yn Ddiffoddwr Tân Llawn Amser 14 mis yn ôl.

Yn ystod cyflwyniad gwasanaeth hir y Diffoddwr Tân Smith yng Ngorsaf Dân Aberdaugleddau, cyflwynodd y Rheolwr Gorsaf Stuart MacDonald Dystysgrif 10 Mlynedd o Wasanaeth iddo am ei ymrwymiad a'i ymroddiad parhaus i ddiogelwch y cyhoedd a diogelu ei gymuned.




Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf