15.05.2025

Y Diffoddwr Tân Liam Bunting yn Dathlu 10 Mlynedd o Wasanaeth

Ddydd Mawrth, Mai 13eg, cynhaliwyd cyflwyniad gwasanaeth hir yng Ngorsaf Dân Aberystwyth wrth i'r Diffoddwr Tân Liam Bunting ddathlu 10 mlynedd o wasanaeth gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Gan Steffan John



Ddydd Mawrth, Mai 13eg, cynhaliwyd cyflwyniad gwasanaeth hir yng Ngorsaf Dân Aberystwyth wrth i'r Diffoddwr Tân Liam Bunting ddathlu 10 mlynedd o wasanaeth gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC).

Dechreuodd y Diffoddwr Tân Bunting ei yrfa diffodd tân ddeng mlynedd yn ôl fel Diffoddwr Tân Ar Alwad yng Ngorsaf Dân Aberaeron, cyn dod yn Ddiffoddwr Tân Llawn Amser yng Ngorsaf Dân Aberystwyth bedair blynedd yn ôl.



Yn ystod y cyflwyniad gwasanaeth hir, dywedodd Steve Rowlands, Rheolwr Grŵp a Phennaeth Rhanbarth y Gogledd (Ceredigion a Phowys):

“Mae Liam wedi dangos ei ymrwymiad i ddiogelwch y cyhoedd ac amddiffyn cymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru drwy nodi deng mlynedd o wasanaeth fel Diffoddwr Tân, sy’n adleisio gwerthoedd GTACGC.

Mae’n bleser cyflwyno tystysgrif gwasanaeth hir i Liam heddiw yng nghwmni ei gyd-aelodau criw a’i gydweithwyr.”



Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.




Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf