23.04.2025

Y Diffoddwr Tân Toby Quinnell i Redeg 100 Milltir

Ym mis Mehefin, bydd y Diffoddwr Tân Toby Quinnell o Orsaf Dân Pontardawe yn ymgymryd â'r her anhygoel o redeg 100 milltir, gan ddechrau o Orsaf Dân y Fenni.

Gan Lily Evans


Ym mis Mehefin, bydd y Diffoddwr Tân Toby Quinnell o Orsaf Dân Pontardawe yn ymgymryd â'r her anhygoel o redeg 100 milltir, gan ddechrau o Orsaf Dân y Fenni.


Bydd ei daith yn mynd ag ef trwy Barc Cenedlaethol godidog Bannau Brycheiniog lle bydd yn gorffen yng Ngorsaf Dân Pontardawe. Mae wedi penderfynu ymgymryd â’r her yma er budd SARAID ac Operation Florian. Mae SARAID yn sefydliad anhygoel sy’n rhoi cymorth dyngarol hanfodol ar draws y byd.

Yn ogystal â chodi arian i SARAID, bydd hefyd yn cefnogi Operation Florian, elusen sy'n gweithio i hyrwyddo amddiffyn bywydau mewn cymunedau sydd mewn angen ar draws y byd. Ers 1995, maent wedi rhoi cerbydau, offer, cyflenwadau ac arbenigedd diffodd tân i ardaloedd sydd mewn argyfwng. Ar ôl pob rhodd, mae eu timau yn aros gyda’r criwiau tân lleol er mwyn hyfforddi a chefnogi, gan sicrhau bod yr offer yn cael ei ddefnyddio i'w lawn botensial.



Y llynedd, rhedais i godi arian i elusennau lleol gwych, felly eleni rydw i eisiau helpu elusennau tramor. Yn ddiweddar, ymunais â SARAID, sef tîm USAR Rhyngwladol sy’n helpu yn dilyn trychinebau ledled y byd – ac fel y gallwch ddychmygu, mae’r cit yn ddrud! Yn ail, rwy'n codi arian i Operation Florian, sy’n helpu i hyfforddi Gwasanaethau Tân ac Achub dros y byd - mae'r gwaith maent yn ei wneud yn achub cynifer o fywydau.

Toby Quinnell - Y Diffoddwr Tân



Ar hyn o bryd mae Toby yn hyfforddi bob wythnos i baratoi ar gyfer yr her hon ac mae am ledaenu'r gair mor eang â phosibl i annog rhoddion i helpu'r ddau sefydliad a ddewiswyd ganddo i barhau â'u gwaith anhygoel ac achub bywydau.

Pob lwc i ti Toby!

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf