Cynhaliwyd yr ymarfer mewn cydweithrediad â phartneriaid lleol, a chyda cefnogaeth Cadetiaid Heddlu Dyfed Powys a oedd yno’n chwarae rôl, a hynny ddwywaith - unwaith yn y prynhawn ac eto gyda'r nos - gan roi cyfle i griwiau hyfforddi mewn golau dydd ac mewn amodau golau isel.
Roedd peiriannau tân a chriwiau o orsafoedd ar draws Adran y Gorllewin yn bresennol, gan gynnwys y Tymbl, Pont-iets, Llandeilo, Rhydaman, Caerfyrddin a Llanymddyfri a chafwyd cefnogaeth ychwanegol gan yr Ystafell Reoli Tân ar y Cyd a’r timau Cyflwyno Hyfforddiant a Chwilio ac Achub Trefol. Roedd Swyddogion Diogelwch Cymunedol hefyd wrth law, yn siarad ag aelodau'r cyhoedd a oedd wedi ymgasglu o gwmpas y digwyddiad ac yn rhannu negeseuon diogelwch ffyrdd allweddol ynghylch y 5 Angheuol.
Fel rhan o'r ymarferiad, fe wnaeth y criwiau ymarfer technegau ar gyfer tynnu pobl yn rhydd, gofalu am bobl wedi’u hanafu, a chydlynu rheolaeth y digwyddiad, gan sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gwbl barod i ymateb i argyfyngau go iawn ledled canolbarth a gorllewin Cymru.