30.08.2024

Y Rheolwr Gwylfa Euros Edwards yn Ymddeol ar ôl 45 Mlynedd o Wasanaeth

Yn dilyn 45 mlynedd o wasanaeth arbennig, aeth y Rheolwr Gwylfa Euros Edwards i'w noson ymarfer olaf yng Ngorsaf Dân Crymych nos Fawrth, 27 Awst.

Gan Steffan John



Yn dilyn 45 mlynedd o wasanaeth arbennig, aeth y Rheolwr Gwylfa Euros Edwards i'w noson ymarfer olaf yng Ngorsaf Dân Crymych nos Fawrth, 27 Awst.

Mae Euros wedi gwasanaethu cymunedau Sir Benfro ers dros bedwar degawd, gan ddechrau ei yrfa gyda Brigad Dân Dyfed yn 1979, ac mae wedi chwarae rhan flaenllaw wrth gynnal lefelau uchel o argaeledd yng Ngorsaf Dân Crymych trwy gydol ei yrfa.

Yn 1998, roedd Euros yn rhan allweddol o’r gwaith o gyflwyno cynllun Cyd-ymatebydd gwirfoddol i Grymych, menter sydd wedi rhoi cefnogaeth amhrisiadwy i wasanaethau Ambiwlans lleol ac wedi achub llawer o fywydau yng nghymunedau Gogledd Sir Benfro.

Yn gynharach eleni, cafodd Euros ei gydnabod am ei yrfa a'i ymrwymiad dros y blynyddoedd pan dderbyniodd Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM).  Yng nghwmni ei deulu, ei ffrindiau a'i gydweithwyr, cyflwynwyd BEM i Euros gan Arglwydd Raglaw Dyfed Ei Fawrhydi, Miss Sara Edwards.

Wrth siarad am ei yrfa, dywedodd Euros:

“Dwi wir wedi mwynhau fy ngyrfa fel Diffoddwr Tân Ar Alwad gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC). Mae wedi bod yn fraint wirioneddol gwasanaethu a gwarchod cymunedau Sir Benfro ers dros 45 mlynedd, ond mae'n bryd i mi hongian fy helmed am y tro olaf. Rwyf wedi gweld llawer o newidiadau yn ystod fy amser gyda'r Gwasanaeth, nid yn unig yn y datblygiadau mewn technoleg ac offer, ond hefyd gyda ffurfio GTACGC yn 1996. I unrhyw un sy'n ystyried dod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad, fy nghyngor i fyddai rhoi cynnig arni, mae cymaint y gallwch ei ddysgu ac mae'n rôl mor fuddiol."

Euros Edwards - Rheolwr Gwylfa


Yn cyflwyno Tystysgrif Gwasanaeth Hir i Euros yn ystod ei noson ymarfer olaf oedd y Rheolwr Ardal Dros Dro, Sean Lloyd, a ddywedodd:

“Mae'n bleser cyflwyno'r dystysgrif hon i Euros heno i ddathlu ei yrfa sylweddol, 45 mlynedd o hyd. Mae Euros wedi dangos ymrwymiad ac ymroddiad rhagorol i gymuned Crymych a'r ardaloedd cyfagos."

Sean Lloyd - Rheolwr Ardal Dros Dro


Cyflwynwyd tei coffa i Euros hefyd gan Ddirprwy Gadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, y Cynghorydd John Davies, a bwyell arian gan y Rheolwr Gwylfa Dros Dro, Dylan Edwards.

Bydd y Rheolwr Gwylfa Euros Edwards yn ymddeol yn swyddogol ddydd Gwener, 30 Awst. 

Mae pawb yn GTACGC yn diolch i Euros am ei wasanaeth ymroddedig ac yn dymuno ymddeoliad hir a hapus iddo!






A allech chi fod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad?



Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf