Cynhaliodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ymarfer hyfforddi adeiladau uchel yn Adeilad Llandinam Prifysgol Aberystwyth yn ddiweddar.
Mynychwyd yr ymarferiad gan griwiau o Orsafoedd Tân Aberystwyth, Aberaeron, Tregaron a Machynlleth ac efelychodd dân mewn adeilad uchel, gyda phobl yn sownd y tu mewn i’r adeilad.
Roedd y sesiwn yn gyfle i’r criwiau ymgyfarwyddo â gweithdrefnau tân mewn adeiladau uchel y Gwasanaeth, yn ogystal â gweithredu System Rheoli Digwyddiad, rhedeg pibellau i fyny sawl rhes o risiau, cynnal technegau codi a chario a defnyddio amrywiaeth o offer ymateb brys.
Roedd aelodau’r criw hefyd yn gallu ymarfer defnyddio system pibell sych, sy’n galluogi Diffoddwyr Tân i gael mynediad i ddŵr o bob llawr unigol mewn adeilad uchel.