08.11.2024

Ymarfer Hyfforddi Chwilio ac Achub Trefol

Yn ddiweddar, cynhaliodd Tîm Chwilio ac Achub Trefol Cymru ymarfer hyfforddi amlasiantaeth a ddaeth â nifer o Wasanaethau Tân ac Achub y DU ynghyd, yn ogystal â gwasanaethau brys eraill.

Gan Steffan John



Yn ddiweddar, cynhaliodd Tîm Chwilio ac Achub Trefol (USAR) Cymru ymarfer hyfforddi amlasiantaeth a ddaeth â nifer o Wasanaethau Tân ac Achub y DU ynghyd, yn ogystal â gwasanaethau brys eraill.

'Red Dragon One' oedd enw’r ymarfer, gyda Thîm USAR Cymru, sy'n cynnwys personél o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC), ynghyd â Gwasanaeth Tân ac Achub Henffordd a Chaerwrangon, Gwasanaeth Tân ac Achub Hampshire ac Ynys Wyth a Thîm Ymateb Ardaloedd Peryglus (HART) Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Roedd yr ymarfer deuddydd yn gyfle i efelychu amrywiaeth o sefyllfaoedd realistig i brofi, datblygu a mireinio gweithdrefnau a systemau'r holl asiantaethau oedd yn cymryd rhan.  Profwyd gweithdrefnau ar ôl digwyddiadau a systemau dadheintio trwy sefyllfaoedd fel gweithrediadau mewn mannau cyfyng, torri poeth, llif gadwyn, gosod ategion a gweithredu sector logisteg lawn.  Roedd y sesiynau hefyd yn caniatáu profi sgiliau arbenigol a chyfarpar diogelu personol.

Trwy efelychu sefyllfaoedd brys o'r dechrau i'r diwedd, roedd Tîm USAR ac asiantaethau partner yn gallu profi eu gweithrediadau ar gyfer pob cam o ddigwyddiad, gan gynnwys paratoi, anfon allan, gwneud penderfyniadau yn ystod y digwyddiad, dychwelyd peiriannau i’r gorsafoedd a gweithdrefnau a dadfriffio ar ôl y digwyddiad. 





Yn ogystal â phrofi prosesau yn lleoliad y digwyddiad, roedd y tîm hefyd yn gallu gwirio'r systemau cyfathrebu ac anfon allan gyda'r Ganolfan Rheoli Tân ar y Cyd, sydd wedi’i lleoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr.  Roedd cyfle hefyd i brofi gweithdrefnau confoi i sicrhau diogelwch, effeithlonrwydd a dibynadwyedd symudiadau cerbydau cydgysylltiedig yn ystod ymateb brys.  Mae profi effeithiol yn helpu i nodi a mynd i'r afael â phroblemau neu risgiau posibl fel methiannau cyfathrebu, gwallau llywio a phroblemau o ran y bylchau rhwng cerbydau.

Dywedodd Gareth Lewis, Rheolwr Gorsaf a Rheolwr Tîm USAR:

"Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran ac a gefnogodd gyfnod paratoi'r ymarfer hwn. Cafwyd ymrwymiad i’r ymarfer o leoedd cyn belled ag Aldershot yn Hampshire, gyda dau siaradwr gwadd a fu’n cynnal gweithgareddau gweithdy o’r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr. Diolch hefyd i Dr Malcome Russel o Dîm Meddygol Tîm Chwilio ac Achub Rhyngwladol y DU am agor y digwyddiad ac am rannu ei brofiadau fel meddyg mewn amgylcheddau chwilio ac achub byd-eang.”

Gareth Lewis - Rheolwr Gorsaf


Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf