Ddydd Llun, Tachwedd 4ydd, cymerodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) o Orsafoedd Tân Llanelli, Rhydaman, Pontarddulais a Chydweli rhan mewn ymarfer hyfforddi yn Ysbyty’r Tywysog Philip yn Llanelli.
Wedi’i enwi’n ‘Ymarfer Maverick’, fe wnaeth y sesiwn ffugio tân o fewn eiddo aml-lawr gyda chleifion yn sownd y tu mewn. Rhoddodd yr ymarfer gyfle i aelodau’r criw brofi a mireinio eu sgiliau mewn Rheoli Digwyddiad, gan weithredu setiau Offer Anadlu yn ogystal â gweithdrefnau’r digwyddiad yn gyffredinol.
Yn ogystal â’r criwiau GTACGC a oedd yn cymryd rhan, roedd Tîm Ymateb Tân Ysbyty’r Tywysog Philip hefyd yn bresennol, gydag aelodau’r tîm yn gallu profi eu hymateb i argyfwng o’r fath.