Yn ddiweddar, cymerodd y Diffoddwyr Tân Ar Alwad yng Ngorsaf Dân Aberystwyth ran mewn ymarfer hyfforddi a oedd yn efelychu achub claf o uchder.
Roedd yr ymarfer yn efelychu claf a oedd yn sownd ar do. Gan ddefnyddio ysgolion, harneisiau ac offer arbenigol arall, bu’r criw yn gweithio’n gyflym i asesu’r sefyllfa a llunio cynllun i achub y claf. Cafodd y criw'r cyfle i ddefnyddio eu sgiliau a’u gwybodaeth i achub cleifion mewn digwyddiadau gyda hygyrchedd cyfyngedig ac ar uchder. Roedd y criw hefyd yn gallu defnyddio Peiriant Ysgol Trofwrdd yr Orsaf Dân i gyrraedd ac achub y claf.
Profodd yr ymarfer eu sgiliau cydlynu, cyfathrebu ac achub technegol, gan sicrhau eu bod bob amser yn barod ar gyfer argyfyngau bywyd go iawn.




Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn
Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.
Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.