05.11.2025

Ymarfer Hyfforddiant Deunyddiau Peryglus (Hazmat) yn Llwyddiant Mawr

Ddydd Gwener, 24 Hydref, cymerodd aelodau criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) ran mewn Ymarfer Hazmat 5 pwmp o'r enw 'Ymarfer Llygoden Fawr, a gynhaliwyd yn y Pwll Cenedlaethol yn Abertawe. 

Gan Rachel Kestin



Ddydd Gwener, 24 Hydref, cymerodd aelodau criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) ran mewn Ymarfer Hazmat 5 pwmp o'r enw 'Ymarfer Llygoden Fawr, a gynhaliwyd yn y Pwll Cenedlaethol yn Abertawe. 

Cynlluniwyd yr ymarfer, oedd yn cynnwys aelodau'r criw a pheiriannau o Dreforys, Canol Abertawe, Gorllewin Abertawe, Pontarddulais a Gorsaf Dân Llanelli, i brofi ymateb gweithredol y criw i ddigwyddiad hazmat gydag anafedigion byw mewn amgylchedd realistig.

Pwll Cenedlaethol Abertawe oedd y lleoliad delfrydol ar gyfer yr ymarfer gan alluogi'r criw i ymarfer y broses Ymateb Gweithredol Cychwynnol, cynnal diheintio ardal ar gyfer y rhai oedd yn gwisgo Offer Anadlu, cynnal gweithdrefnau dadwisgo diogel, cynnal diheintio cychwynnol ar gyfer gwisgoedd nwy tyn a rhoi cyngor diogelwch ar gyfer amgylcheddau peryglus i’r cyhoedd.

Dywedodd Rheolwr Gorsaf, Richie Davies:



"Roedd yr ymarfer ym 'Mhwll Cenedlaethol Abertawe' yn llwyddiant mawr. Roedd yn gyfle perffaith i'n criwiau ymarfer a pherfformio ymatebion gweithredol i ddigwyddiadau hazmat. Gweithiodd pawb oedd yno yn ddiflino i brofi ein gweithdrefnau mewn amgylchedd realistig, gan roi llwyfan ar gyfer cyfleoedd dysgu rhagorol i’r criw. Da iawn i bawb a gymerodd ran!



Roedd yr ymarfer yn llwyddiant ysgubol gyda’r criwiau’n cael gwybodaeth werthfawr mewn lleoliad realistig.

Diolch i’r criw am eu gwaith caled a'u hymroddiad, y swyddogion a oedd yn cymryd rhan ac am ddealltwriaeth y cyhoedd wrth i'r ymarfer gael ei gynnal.

Diolch yn arbennig i Orsaf Dân Gorllewin Abertawe a’r Rheolwr Gwylfa, Jon Bates, am drefnu'r ymarfer, i Jonah Millar o'r Pwll Cenedlaethol am ei gefnogaeth wrth helpu i drefnu'r ymarfer ac yn olaf i'r Prif Swyddog Tân Roger Thomas am fynychu ei ymarfer gweithredol olaf cyn ei ymddeoliad! 







Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf