Ddydd Llun, Gorffennaf 1af, cynhaliodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) o Orsafoedd Tân Llanelli, Cydweli a Rhydaman ymarfer hyfforddi yng Ngwaith Trostre TATA Steel yn Llanelli.
Roedd y sesiwn hyfforddi yn caniatáu i aelodau’r criwiau efelychu ffrwydrad llinell nwy a thân dilynol, a oedd nid yn unig yn profi cynlluniau ymateb brys TATA Steel, ond hefyd gweithdrefnau gweithredol GTACGC ar gyfer ymateb i ddigwyddiad ar safle Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr haen is.
Wrth siarad am yr ymarfer hyfforddi, dywedodd Pennaeth yr Orsaf, Sian Davies: