19.03.2025

Ymarferiad Hyfforddi Llandysul yn llwyddiant mawr

Ddydd Llun, 17 Mawrth, cynhaliodd aelodau criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) o Orsafoedd Tân Llandysul a Chastellnewydd Emlyn ymarferiad hyfforddi Chwilio ac Achub o'r enw 'Graig', a gynhaliwyd yn Fflatiau Heol y Graig, Llandysul.

Gan Rachel Kestin



Ddydd Llun, 17 Mawrth, cynhaliodd aelodau criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) o Orsafoedd Tân Llandysul a Chastellnewydd Emlyn ymarferiad hyfforddi Chwilio ac Achub o'r enw 'Graig', a gynhaliwyd yn Fflatiau Heol y Graig, Llandysul.

Roedd yr ymarferiad yn galluogi'r criw i ymarfer ymatebion Chwilio ac Achub, gan roi cyfle i ddatblygu a mireinio eu parodrwydd ar gyfer digwyddiadau go iawn. Fflatiau Heol y Graig oedd y lleoliad delfrydol i gynnig amgylchedd realistig i'r criw. Roedd yn caniatáu iddynt ymarfer Gweithdrefnau Rheoli Digwyddiadau, profi eu setiau Offer Anadlu, gwneud gwaith achub heriol a gweithio mewn ardaloedd risg yn chwilio am anafiadau.

Dywedodd y rheolwr gwylfa Iwan Jones:

"Roedd ymarferiad 'Graig' yn gyfle dysgu ardderchog i'r criw, gan roi hyfforddiant iddynt a gynlluniwyd i wella parodrwydd ar gyfer digwyddiadau go iawn a chryfhau gwaith tîm. Hoffem ddiolch i ‘gymdeithas dai 'Tai Barcud' am gael defnyddio Fflatiau Heol y Graig ar gyfer yr ymarferiad hwn. Rhoddodd y rhain amgylchedd realistig i ni i'r criw ymarfer."



Diolch i bawb a gymerodd ran ac i’r cyhoedd am eu dealltwriaeth yn ystod yr ymarferiad.

Os ydych chi wedi ystyried dod yn ddiffoddwr tân ar alwad, mae GTACGC yn recriwtio ar hyn o bryd ym mhob un o'n Gorsafoedd Tân Ar Alwad. Ewch i'n gwefan am fwy o wybodaeth neu i lenwi ffurflen mynegi diddordeb.

Cyswllt - Gymdeithas dai Tai Barcud








Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf