Ddydd Mercher, Ebrill 23ain, bu criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Talgarth a Chrucywel yn cymryd rhan mewn ymarferiad hyfforddi yn Sgwâr Talgarth.
Bu’r sesiwn yn efelychu tân mewn eiddo, gyda phobl y tu mewn i’r adeilad, gan ddefnyddio dymis yn dynwared y bobl. Rhoddodd yr ymarferiad gyfle i aelodau’r criwiau ymarfer gweithio’n ddiogel mewn amodau lle nad oedd llawer o welededd oherwydd mwg a thywyllwch, yn ogystal â chynnal gweithdrefnau defnyddio offer anadlu a chodi a chario.
Roedd cyfle hefyd i weithio gydag asiantaethau partner, gyda phersonél o’r Gwasanaeth Ambiwlans a Heddlu Dyfed-Powys hefyd yn cymryd rhan yn yr ymarfer hyfforddi.
Roedd hefyd yn bosibl i aelodau o'r gymuned leol gymryd rhan, gan iddynt gael eu gwahodd i wylio'r ymarfer hyfforddi wrth iddo ddatblygu. Roedd aelodau’r criw wrth law i ddarparu gwybodaeth ac i ateb cwestiynau a bu’r sesiwn yn gyfle i amlygu’r hyfforddiant a’r gwaith sydd ei angen i gadw cymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ddiogel.