13.11.2025

Yr Osgordd Baneri Seremonïol yn ymuno â Gorymdaith Sul y Cofio

Ddydd Sul, 9 Tachwedd, roedd Gosgordd Baneri Seremonïol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn falch o ymuno â Gwasanaeth a Gorymdaith Sul y Cofio yn Hwlffordd.

Gan Steffan John



Ddydd Sul, 9 Tachwedd, roedd Gosgordd Baneri Seremonïol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn falch o ymuno â Gwasanaeth a Gorymdaith Sul y Cofio yn Hwlffordd.

Roedd Gosgordd Baneri Seremonïol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn falch o ymuno â Gwasanaeth a Gorymdaith Sul y Cofio yn Hwlffordd ar 9 Tachwedd.

Ar yr orymdaith flynyddol hon trwy ganol y dref, daw cyn-filwyr, personél sy’n gwasanaethu, cadetiaid a mwy, yn ogystal â channoedd o wylwyr, ynghyd i anrhydeddu’r rhai a gollwyd mewn rhyfeloedd.

Maer Hwlffordd, ynghyd â chynrychiolwyr o ysgolion lleol, sefydliadau cymunedol, a grwpiau mewn lifrai, oedd yn arwain Gwasanaeth Sul y Cofio, a rhoddwyd torchau o babïau wrth Gofeb Rhyfel y Sir.  Cefnogwyd y gwasanaeth gan aelodau o'r Lleng Brydeinig Frenhinol a chlerigwyr lleol, a wnaeth arwain gweddïau a darlleniadau cofio.



Yr Osgordd Baneri Seremonïol

Mae'r Osgordd Baneri Seremonïol yn cynnwys personél presennol a rhai sydd wedi ymddeol, ac maen nhw’n cynrychioli'r Gwasanaeth mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn galendr.  Mae aelodau'r Osgordd Baneri Seremonïol yn gwisgo gwisg seremonïol ac yn falch o gario’r Faner Genedlaethol yn ogystal â baner GTACGC.

Sefydlwyd yr Osgordd fel rhan o Frigâd Dân Dyfed yn 1984, a'r Rali Peiriannau Tân ym Maes Awyr Llwynhelyg oedd y digwyddiad cyntaf i’r grŵp fynd iddo.  Dros y blynyddoedd, mae'r Osgordd Baneri wedi mynd i amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan gynnwys angladdau cyn-gydweithwyr a chydweithwyr sy'n gwasanaethu, seremonïau medalau ffurfiol, gwasanaethau cofio, cyngherddau carolau a phriodasau.



Mae youtube.com wedi'i rwystro oherwydd eich dewisiadau cwci cyfredol, gallwch newid y rheini trwy glicio ar y botwm cwci yn y gornel dde isaf ar unrhyw dudalen.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf