Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth am ddiogelwch y cyhoedd, rhaglenni atal ac amddiffyn, a gwasanaeth ymateb brys ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Rydym yn cyflogi dros 1,350 o aelodau staff ac yn gwasanaethu bron 12,000 cilomedr sgwâr - bron i ddwy ran o dair o Gymru.
Gellir rhannu gwaith Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru gyda Phlant a Phobl Ifanc yn bedwar maes gwahanol, sef: Cadetiaid Tân, Ffenics, Addysg a Chyneuwyr Tanau.
Mae gweithio i'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn rôl uchel ei pharch yn y gymuned. Rydym yn dibynnu ar dîm o bobl sydd â chymysgedd o sgiliau a phrofiad i ddarparu gwasanaeth rheng flaen effeithiol a gwneud ein rhanbarth yn fw...
Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn eich annog i fod yn ymwybodol o beryglon tanau gwyllt dros dymhorau’r gwanwyn a'r haf #doethidanaugwyllt.
Mae gweithio i'r gwasanaeth tân ac achub yn rôl uchel ei pharch yn y gymuned. Rydym yn dibynnu ar dîm o bobl sydd â chymysgedd o sgiliau a phrofiad i ddarparu gwasanaeth rheng flaen effeithiol a gwneud ein rhanbarth yn fwy diogel rhag tân.
Dweiswch eich iaith : Choose your language:
Heddiw, cyhoeddodd Gwasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru eu hadroddiadau terfynol o Adolygiad Annibynnol o Ddiwylliant a gomisiynwyd ar y cyd, a hwyluswyd gan Crest Advisory.
23.09.2024 by Steffan John
Ddydd Gwener, Medi 20fed, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Gorseinon, Pontarddulais, Treforys, Canol Abertawe, Port Talbot a Phontardawe eu galw i ddigwyddiad yn hen adeilad Ysgol Gynradd Gorseinon.
Categorïau:
20.09.2024 by Steffan John
Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru hanes hir ac amrywiol, ar ôl cael ei sefydlu ym 1996 drwy uno Brigadau Tân Dyfed, Powys a Gorllewin Morgannwg - byddwn wrth ein boddau'n gweld eich hen luniau o staff, digwyddiadau, cerbydau ac adeiladau'r Gwasanaeth Tân ac Achub!
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.
16.09.2024 by Aled Lewis
Ydych chi’n ddiffoddwr tân ar-alwad sy’n gweithio i naill ai Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru neu Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru? Neu ydych chi wedi gweithio i’r naill wasanaeth ers Mehefin 1, 2021?
13.09.2024 by Rachel Kestin
Cytunwyd ar adroddiad cynnydd blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe ar gyfer 2023/2024 yn ei gyfarfod ar 25 Ebrill 2024.
Ddydd Sadwrn, 7 Medi, cymerodd 14 aelod o staff Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) ran yn Her Tri Chopa Cymru, gan gyrraedd copaon Pen y Fan, yr Wyddfa a Chader Idris o fewn 24 awr.
12.09.2024 by Steffan John
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi codi swm anhygoel o £166,297 ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân!
Wrth iddynt gymryd rhan mewn Her Tri Chopa Cymru, dangosodd y Rheolwr Grŵp Phil Morris a'r Diffoddwr Tân Ar Alwad Darren Davies ddewrder ac ymrwymiad eithriadol i ddiogelwch, trwy gario person oedd wedi'i anafu am dros dair milltir.