Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004
Mae Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn darparu mynediad cyhoeddus i wybodaeth amgylcheddol sydd gan awdurdodau cyhoeddus. Os ydych am wneud cais am wybodaeth i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o dan Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, gallwch wneud hynny ar lafar neu'n ysgrifenedig gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.
Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Heol Llwyn Pisgwydd
Caerfyrddin
SA31 1SP
Ebost: post@tancgc.gov.uk
Ffôn: 0370 6060699
Er mwyn sicrhau yr ymdrinnir â cheisiadau mor effeithlon â phosibl, darparwch:
- Eich enw llawn
- Cyfeiriad ar gyfer gohebiaeth
- Disgrifiwch yn glir y wybodaeth rydych chi'n gofyn amdani
- Nodwch pa fformat yr hoffech dderbyn y wybodaeth e.e. taenlen excel a anfonir drwy e-bost
Gall ffioedd rhesymol fod yn daladwy hefyd, yn dibynnu ar natur a maint y wybodaeth a geisir.Fel arfer, bydd eich cais yn cael ei ateb o fewn 20 diwrnod gwaith, er y gellir ymestyn hyn i 40 diwrnod gwaith dan amgylchiadau diffiniedig.