Côd Rheoleiddwyr 2014



Mae’r Côd Rheolyddion yn Gôd Ymarfer statudol, a fwriedir i annog rheolyddion i gyflawni eu hamcanion mewn modd sy’n lleihau’r beichiau ar fusnesau.

Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i leihau’r beichiau rheoleiddio a chefnogi twf busnesau sy’n cydymffurfio, trwy ddatblygu cydberthynas agored ac adeiladol rhwng y rheolyddion a’r rhai maent yn eu rheoleiddio.

Mae’r Côd Rheolyddion yn Gôd Ymarfer statudol, a fwriedir i annog rheolyddion i gyflawni eu hamcanion mewn modd sy’n lleihau’r beichiau ar fusnesau. Pwrpas y Côd yw mewnosod ymagwedd seiliedig ar risg, gyfatebol, targedig a hyblyg at archwilio a gorfodi rheoleiddio ymhlith y rheolyddion mae’n gymwys iddynt.  Bydd yr ymagwedd hon yn sicrhau bod rheolyddion yn effeithlon ac yn effeithiol yn eu gwaith, heb osod beichiau diangen ar y rhai maent yn eu rheoleiddio.  Mae’r Côd hwn yn seiliedig ar y saith egwyddor archwilio a gorfodi a nodwyd yn adroddiad Philip Hampton "Reducing administrative burdens: effective inspection and enforcement" (2005).

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ymrwymedig i reoleiddio gwell a doethach, sy’n hybu twf busnesau ac eisoes mae gan y Gwasanaeth bolisïau, gweithdrefnau a mecanweithiau mewn lle i sicrhau ein bod yn cyflawni ein rhwymedigaethau rheoleiddio, yn cynnwys gorfodaeth gadarn ond teg, yn unol ag egwyddorion rheoleiddio da.

Rydym yn cydymffurfio â phum egwyddor rheoleiddio da h.y. cymesuredd, atebolrwydd, cysondeb, eglurder a thargedu, sydd wedi eu cynnwys yn ein Polisi Gorfodaeth cyfredol. 

Policy Gorfodi Diogelwch Tân Busnes

Mae'r Datganiad Polisi Gorfodi hwn yn seiliedig ar egwyddorion 'Gwell Rheoleiddio' sy'n rhan o God Rheoleiddwyr 2014 ac mae'n disgrifio'r dull gweithredu a ddefnyddir gan yr Awdurdodau i orfodi'r ddeddfwriaeth. Caiff ei ddefnyddio ar y cyd â'r canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Senedd y Deyrnas Unedig; yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol; yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau, y Swyddfa Cyflawni Gwell Rheoleiddio ac adrannau perthnasol eraill y llywodraeth.

Policy Gorfodi Diogelwch Tân Busnes

Sut Rydym Ni’n Cwrdd  Gofynion Côd Rheolyddion 2014

This document has been written to embrace the national enforcement priorities for Wales and to comply with section 6.3 of the Regulators’ Code 2014. It explains how Mid and West Wales Fire and Rescue Service’s Business Fire Safety (BFS) Department will fulfill its statutory obligations to those we regulate in order that they will have a clear understanding of the services that can be expected and will feel able to challenge if these services are not being fulfilled.

Sut Rydym Ni’n Cwrdd  Gofynion Côd Rheolyddion 2014