Parhad busnes



Ni waeth beth yw achos yr amhariad, mae cynllunio da ar gyfer parhad busnes yn medru lleihau colledion cyffredinol i’ch busnes chi gan hanner.

Pe byddai eich busnes yn dioddef tân, a fyddai’n medru goroesi? 

Mae Ymchwil a wnaed gan y Llywodraeth yn dangos bod 20% o fusnesau’r DU yn dioddef rhyw fath o amhariad difrifol bob blwyddyn, ac o’r rheini bydd 80% yn cau o fewn 18 mis i’r amhariad.

Nid yn unig mae hyn yn berthynol i dân, mae’n berthynol hefyd i weithredoedd o frawychaeth, clefydau pandemig, lladrata a thwyll, ac mae hyd yn oed llifogydd yn medru cael effaith ddistrywiol ar eich parhad busnes.  Nid oes yn rhaid i ddigwyddiadau i effeithio ar eich cwmni er mwyn achosi amhariad difrifol i’ch gweithgareddau busnes chi.

Ni waeth beth yw achos yr amhariad, mae cynllunio da ar gyfer parhad busnes yn medru lleihau colledion cyffredinol i’ch busnes chi gan hanner. 

Er mwyn eich cynorthwyo i gynllunio ar gyfer parhad busnes, gall ROBUST (Pecyn Cymorth Meddalwedd Busnes Cydnerth) eich helpu i ddatblygu a pharatoi cynlluniau parhad busnes effeithiol, a fydd yn eich galluogi i baratoi cynlluniau i helpu eich busnes i ailsefydlu yn gyflym. 

Mae’r Pecyn Cymorth ar gael i’w lawrlwytho AM DDIM oddi ar safle ROBUST (yn agor yn ffenest/tab newydd) Mae'r safle yn yr uniaith Saesneg yn unig. 

Ariennir y pecyn cymorth gan yswirwyr mwyaf blaenllaw'r DU ac fe’i dyluniwyd i ddiogelu busnesau, eu pobl a’u hasedau.