Beth yw asesiad risg o dân?
Mae asesiad risg o dân yn cymryd golwg drefnedig a threfnus ar eich safle chi, y gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni yno a’r tebygrwydd y gallai tân amlygu ac achosi niwed i’r bobl ar y safle ac yn y cyffiniau.
Nodau’r asesiad risg o dân yw:
- Dod o hyd i beryglon tân.
- Lleihau’r risg y bydd y peryglon hynny’n achosi niwed, cyn belled ag sy’n rhesymol o ymarferol.
- Penderfynu pa ragofalon tân materol a threfniadau rheoli sydd eu hangen i sicrhau diogelwch pobl yn eich adeilad, pe byddai tân yn amlygu.
Rhaid cofnodi Canfyddiadau eich Asesiad Risg Tân ym mhob achos.
(Newidiodd hyn ym mis Hydref 2023, yn flaenorol dim ond canfyddiadau sylweddol oedd yn ofynnol eu cofnodi pan fyddai meini prawf penodol yn cael eu bodloni).
Fel arfer, dylai'r cofnod gynnwys y canlynol (nid yw hyn yn hollgynhwysfawr):
- yr ardaloedd o fewn ac o amgylch yr adeilad/safle sydd wedi'u hystyried fel rhan o'r broses, gan gynnwys, lle mae adeilad yn cynnwys dwy set neu fwy o safleoedd domestig, strwythur yr adeilad, a systemau waliau allanol
- y peryglon tân a'r risgiau a nodwyd
- unrhyw grŵp o bobl y nodwyd eu bod mewn perygl arbennig
- y mesurau sydd wedi'u cymryd/a fydd yn cael eu cymryd i ddileu neu leihau risg neu amddiffyn rhag risg
- y wybodaeth, y cyfarwyddyd a'r hyfforddiant sydd eu hangen ar bobl a sut y byddant yn cael eu rhoi
- manylion unrhyw unigolion a benodir gan y Person Cyfrifol i gynorthwyo gyda'r asesiad
- dyddiad cynnal neu adolygu'r asesiad
- unrhyw wybodaeth arall sy'n ofynnol gan y Gorchymyn Diogelwch Tân neu unrhyw reoliadau a wneir o dan
Canllaw i Ddewis Aseswr Risgiau Tân Cymwys
Mae’r Gyfraith yn dweud fod yn rhaid i’ch Asesiad Risgiau Tân chi i fod yn addas ac yn ddigonol ac mae’n rhaid iddo gael ei gynnal gan berson / bersonau cymwys. Diffinnir person cymwys fel rhywun sydd wedi derbyn digon o hyfforddiant a chanddo ddigon o brofiad neu ddealltwriaeth a rhinweddau eraill i fedru rhoi’r mesurau yma ar waith yn briodol. Gallwch chi gynnal yr asesiad eich hunan, fodd bynnag, os ydych chi, cyn neu wedi darllen y canllawiau, yn teimlo nad oes gennych wybodaeth neu ddealltwriaeth briodol o ddiogelwch tân a’r risg mae tân yn ei beri i bobl i gydymffurfio’n effeithiol â’ch dyletswyddau cyfreithiol, bydd angen i chi benodi arbenigwr i gynnal yr asesiad risgiau tân ar eich rhan chi.
I'ch cynorthwyo i ddewis Aseswr Rigiau Tân cymwys, fel medrwch gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol lawrlwythwch dogfen uniaith Saesneg y Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid Tân Canllaw i Ddewis Aseswr Risgiau Tân Cymwys (PDF, 409Kb)
Sut mae cynnal asesiad risg o dân?
Bydd asesiad risg o dân yn eich helpu i benderfynu ar y siawns y bydd tân yn amlygu, a’r peryglon tân mae eich safle’n eu cyflwyno i’r bobl sy’n ei ddefnyddio ac unrhyw un yn y cyffiniau.
Bydd llawer o’r wybodaeth ar gyfer eich asesiad risg o dân yn dod o’r wybodaeth sydd gan eich gweithwyr, cydweithwyr a chynrychiolwyr am y safle, yn ogystal â gwybodaeth a roddwyd i chi gan bobl sydd â chyfrifoldeb am rannau eraill o’r adeilad. Mae’n debygol iawn y bydd angen mynd o gwmpas eich safle i gadarnhau, diwygio neu ychwanegu manylion at eich barnau cychwynnol.
Mae’n bwysig eich bod yn cynnal eich asesiad risg o dân mewn modd ymarferol a threfnus, a’ch bod yn neilltuo digon o amser i’w wneud yn iawn. Mae’n rhaid i’r asesiad roi ystyriaeth i’r safle cyfan, yn cynnwys lleoliadau yn yr awyr agored ac unrhyw ystafelloedd ac ardaloedd nad sy’n cael eu defnyddio’n aml iawn. Os mai safle bach ydyw, mae’n bosib byddwch yn medru ei asesu’n gyffredinol. Ar safle mwy o faint, mae’n bosib bydd yn ddefnyddiol i chi ei rannu i ystafelloedd neu gyfres o ardaloedd i’w hasesu, gan ddefnyddio ffiniau naturiol, e.e. ardaloedd megis ceginau a londrïau, ystafelloedd gwely, swyddfeydd, storfeydd, yn ogystal â choridorau, grisffyrdd a llwybrau allanol.
Yn unol â chyfraith iechyd a diogelwch (sy’n cael ei orfodi gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch neu’r awdurdod lleol), mae gofyn i chi gynnal asesiad risg mewn perthynas ag unrhyw weithgareddau ar eich safle ac i gymryd, neu lynu wrth, fesurau arbennig, technegol neu sefydliadol priodol. Os yw eich asesiad risg iechyd a diogelwch yn canfod bod y gweithgareddau yma’n debygol o olygu risg o dân, neu risg y bydd tân yn lledu (yn y gegin neu mewn gweithdy er enghraifft), yna bydd angen i chi ystyried hyn yn ystod eich asesiad risg o dân a blaenoriaethu eich camau gweithredu yn seiliedig ar y lefel o risg.
Mae angen i chi benodi un neu fwy o ‘bersonau cymwys’ (gall fod yn chi’ch hunan), i gyflawni unrhyw fesurau ataliol ac amddiffynnol sy’n ofynnol. Gall y person hwn fod yn weithiwr sydd wedi’i hyfforddi’n briodol neu’n drydydd parti, ble bod hynny’n briodol.
Asesiad risg o dân
Dylai eich asesiad risg o dân ddangos, cyn belled ag sy’n rhesymol, eich bod wedi ystyried anghenion yr holl bobl berthnasol, yn cynnwys pobl anabl.
Cam 1 -Canfod y peryglon ar eich safle
Mae angen i chi ganfod:
- ffynonellau tanio megis fflamau noeth, gwresogyddion neu rai prosesau masnachol;
- ffynonellau o danwydd megis gwastraff wedi cronni, deunydd arddangos, tecstilau neu ormodedd o gynnyrch; a
- Ffynonellau o ocsigen megis systemau tymheru aer neu gyflenwadau ocsigen meddyginiaethol neu fasnachol.
Cam 2 – Canfod pobl sydd mewn perygl
Bydd angen i chi ganfod y bobl hynny a all fod mewn perygl yn arbennig, megis:
- pobl sy’n gweithio’n agos i beryglon tân;
- pobl sy’n gweithio ar eu pennau hunain neu mewn ardaloedd arunig (megis gwagle’r to neu stordai);
- plant neu rieni gyda babanod; a phobl oedrannus neu fethedig neu bobl sy’n anabl.
Cam 3 – Gwerthuswch, dilëwch, lleihewch a diogelwch rhag y risg
Gwerthuswch y lefel o risg ar eich safle. Dylech chi ddileu neu leihau unrhyw beryglon tân, ble bod hynny’n bosib, a lleihau unrhyw risgiau yr ydych wedi eu canfod. Er enghraifft, dylech chi:
- newid defnyddiau fflamadwy iawn am rai llai fflamadwy;
- sicrhau eich bod yn gwahanu defnyddiau fflamadwy oddi wrth ffynonellau tanio; a
- bod â pholisi ysmygu’n ddiogel.
Pan fyddwch wedi lleihau’r risg gymaint ag sy’n bosib, mae’n rhaid i chi asesu unrhyw risg sy’n weddill a phenderfynu p’un ai bod unrhyw fesurau pellach y mae angen i chi eu cymryd, i sicrhau eich bod yn darparu lefel resymol o ddiogelwch rhag tân.
Cam 4 – Cofnodwch, cynlluniwch, cyfarwyddwch, hysbyswch a hyfforddwch
Yn y cam hwn, dylech chi gofnodi, cynllunio, cyfarwyddo, hysbysu a hyfforddi. Bydd angen i chi gofnodi’r peryglon a’r bobl yr ydych wedi canfod sydd mewn perygl yn arbennig yng ngham 1 a cham 2. Dylech chi gofnodi hefyd beth wnaethoch chi ynglŷn â’r peth yng ngham 3. Gall cynllun syml eich helpu i gyflawni hyn.
Yn ogystal, bydd angen i chi baratoi cynllun at argyfwng, wedi’i deilwrio ar gyfer eich safle chi. Dylai gynnwys y camau sydd angen i chi eu cymryd os oes tân yn amlygu ar eich safle chi neu unrhyw safle gerllaw.
Bydd angen i chi roi cyfarwyddiadau i staff a phobl eraill, o bryd i’w gilydd, megis gwesteion mewn gwesty neu stiwardiaid gwirfoddol. Dylai pob gweithiwr dderbyn digon o wybodaeth a hyfforddiant am y risgiau sy’n bodoli ar y safle. Bydd angen hyfforddiant mwy trylwyr ar rai, megis marsialiaid tân.
Cam 5 – Adolygwch
Dylech chi ofalu bod eich asesiad risg o dân yn gyfoes. Bydd angen i chi ail-archwilio eich asesiad risg o dân os ydych yn amau nad yw’n ddilys bellach, megis os bu damwain bron a digwydd a phob tro y ceir newid sylweddol i lefel y risg ar eich safle. Gallai hyn gynnwys:
- os ydych yn storio mwy o ddefnyddiau a allai fynd ar dân yn hawdd;
- bod sifft nos newydd yn dechrau; neu
- newid yn y math neu’r nifer o bobl sy’n defnyddio eich safle.
Cliciwch yma i lawrlwytho dogfen Templed Asesu Risg Tân Enghreifftiol (docx, 685Kb) (Dogfen Saesneg yn unig)
Cliciwch yma i lawrlwytho Canllaw Templed Asesu Risg Tân (PDF, 219Kb) (Dogfen Saesneg yn unig)