Digwyddiadau a Diogelwch y Cyhoedd



Gall digwyddiadau cyhoeddus amrywio o fêtes pentref a sioeau sirol i gyngherddau mawr a digwyddiadau mawr ar gyfer perfformwyr o fri rhyngwladol, gweithgareddau chwaraeon, ac ati.

Beth bynnag fo'r lleoliad mae'r Strategaeth Diogelwch Tân a'r Cynlluniau Brys ac Gwacáu yn chwarae rhan hanfodol wrth reoli diogelwch yn y digwyddiad.



Mae gan bob awdurdod lleol Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch (GCD) i ddarparu cyngor ar faterion yn ymwneud â diogelwch mewn digwyddiadau ac i sicrhau y cynhelir diogelwch y cyhoedd. Mae Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch yn ystyried pob cais i drwyddedu digwyddiad ac yn cynnig cyngor a chanllawiau i bawb dan sylw.

Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer digwyddiad cyhoeddus trwy'r Awdurdod Lleol perthnasol.

Lle y caiff aelodau o'r cyhoedd eu gwahodd i gymryd rhan mewn digwyddiad a gynhelir ac a gynllunnir, mae gan Drefnydd y Digwyddiad a/neu berchennog yr eiddo neu dir lle cynhelir y digwyddiad, gyfrifoldeb neu ddyletswydd gofal ar gyfer diogelwch y cyhoedd cyn, yn ystod ac ar ôl y digwyddiad, beth bynnag fo'i faint.

Diogelwch Rhag Tân

Mae Trefnwyr Digwyddiadau'n gyfrifol am gymryd camau i amddiffyn pobl sy'n mynd i'r digwyddiad rhag y risg o dân. Mae hyn yn cynnwys cyflogeion, contractwyr, gwirfoddolwyr, y cyhoedd sy'n ymweld, neu unrhyw berson arall sydd â hawl gyfreithiol i fod yno.

Mae'n bwysig sylweddoli bod tân yn risg go iawn mewn amgylcheddau digwyddiadau, a dylai Trefnwyr Digwyddiadau gydnabod eu cyfrifoldebau statudol i ymgymryd ag Asesiad Risgiau Tân cynhwysfawr ac i roi'r rheolaethau ar waith sy'n angenrheidiol er mwyn dileu'r risgiau hyn.

Gan ddibynnu ar natur, maint a chymhlethdod y digwyddiad, gall Asesiad Risgiau Tân gael ei wneud gan Drefnydd y Digwyddiad neu aelod o'r tîm digwyddiadau, ac ati, cyhyd â bod ganddo'r sgiliau, y profiad, yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth angenrheidiol. Fel arall, gall fod yn fwy priodol cyflogi arbenigwr diogelwch tân i wneud yr Asesiad Risgiau Tân. (Gweler A Guide to Choosing a Competent Fire Risk Assessor (yn agor yn ffenest/tab newydd).)

Bydd angen cael rhyw fath o Gynllun Digwyddiad ar gyfer pob digwyddiad, a bydd ei fanylion yn dibynnu ar natur, maint ac effaith y digwyddiad. Dylai'r Cynllun hwn fod yn ddogfen fyw sy'n cofnodi datblygiad y digwyddiad ac yn cofnodi unrhyw wybodaeth bwysig (e.e. problemau, cytundebau neu ddiwygiadau a allai godi wrth i'r digwyddiad ddatblygu).

Er mwyn i unrhyw ddigwyddiad awyr agored, gŵyl, casgliad torfol, ac ati gael ei gynnal yn ddiogel, mae'n hanfodol bod gwaith cynllunio addas a digonol yn cael ei wneud ar ran pob rhanddeiliaid dan sylw. Mae Grŵp Diogelwch Digwyddiadau yr NFCC wedi datblygu cyfres o ddogfennau canllawiau gorau a chyngor Diogelwch Tân i alluogi cysondeb wrth roi, casglu, cynllunio a chofnodi gwybodaeth.

Bwriad y dogfennau hyn yw ategu Cynllun Rheoli Digwyddiad trefnydd y digwyddiad, a chael eu hymgorffori yn y Cynllun hwn. 

Lawrlwythwch Rhestr Wirio Trefnwyr Digwyddiadau (PDF, Saesneg yn unig, 5.5Mb)​ 

Lluniwyd y ddogfen hon i roi gwybodaeth a chanllawiau gwerthfawr a chyson i drefnwyr digwyddiadau newydd neu amhrofiadol wrth iddynt gynllunio ar gyfer digwyddiadau a gwyliau bach i ganolig. Gellir ei defnyddio hefyd fel nodyn atgoffa ar gyfer y timau mwy profiadol wrth iddynt gynllunio ar gyfer digwyddiadau. Bydd yn helpu trefnwyr digwyddiadau wrth iddynt fynd ati i ddechrau trefnu digwyddiad, ac mae wedi'i datblygu yn y fath fodd y gall ddarparu cysondeb o ran casglu/rhannu gwybodaeth rhwng y tîm rheoli digwyddiadau a chyrff rheoleiddio perthnasol.

Templedi Asesiad Risgiau Tân

Darperir y cyngor canlynol ar gyfer cynllun(iau) a gofodau safleoedd lle mae 'pebyll Saffari' – 'Iwrtiau' – 'Geogromenni' – 'Archbebyll' ac adeiladweithiau tebyg yn cael eu defnyddio fel llety cysgu lled-barhaol. Mae hefyd yn cynnwys trefniadau a chanllawiau diogelwch rhag tân ychwanegol ar gyfer safleoedd sydd wedi'u trwyddedu. Mae'r canllawiau hyn hefyd yn cynnwys y mathau hyn o unedau llety mewn gwyliau ac ati, sy'n cael eu lleoli oddi wrth safle'r ŵyl/digwyddiad ei hun, a byddant yn sicrhau man cychwyn ar gyfer unrhyw ystyriaethau o ran asesu risgiau tân.

Nod yr wybodaeth hon yw symleiddio a safoni'r gofynion o ran gofodau a chynlluniau ar gyfer safleoedd newydd a darpar safleoedd newydd mewn perthynas â thrwyddedu safleoedd. Mae hefyd yn egluro'r darpariaethau sydd ar gael y tu mewn i'r adeiladweithiau pabellog i leihau risgiau o dân, ac yn rhoi cyngor ar hyd a lled y gallu i synhwyro tân a rhybuddio rhag tân, a hynny oherwydd prinder yr wybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus lle nad oes meini prawf penodol wedi cael eu pennu.