Yn sgil trychineb Tŵr Grenfell ym mis Gorffennaf 2017, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, trwy ei Adran Diogelwch Tân Busnesau, wedi bod yn gweithio i sicrhau diogelwch parhaus preswylwyr mewn Blociau Preswyl Aml-lawr yn ardal y Gwasanaeth, boed y rheiny o dan reolaeth y sector preifat neu'r sector cyhoeddus.
Aed i'r afael â hyn trwy ymgynghori a chydweithredu'n agos â Chyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân, Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol, Gwasanaethau Tân ac Achub eraill a Pherchnogion/Asiantau Rheoli.
Paratowyd y dudalen hon i ddarparu storfa o wybodaeth a chanllawiau, sy'n deillio o amrywiaeth o ffynonellau, mewn perthynas ag Adeiladau Preswyl Aml-lawr. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei hychwanegu wrth iddi ddod i law.