Gall cyfraith diogelwch rhag tân ar gyfer y gweithle fod yn eithaf brawychus i berchennog neu reolwr newydd busnes bach. Cynlluniwyd yr offeryn hwn i gynnig profiad hwyliog a rhyngweithiol, gan hefyd roi trosolwg cyffredinol i chi o'ch cyfrifoldebau yn dilyn asesiad risgiau tân yn eich adeiladau.
Mae Offeryn Ymwybyddiaeth o Ddiogelwch rhag Tân wedi cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad rhwng Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân (NFCC), Eyecademy a 925 Studios ym Mhrifysgol Northampton, gyda chyllid yn cael ei ddarparu gan Gronfa Arloesi Rheoleiddwyr yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS).
Gall cyfraith diogelwch rhag tân ar gyfer y gweithle fod yn eithaf brawychus i berchennog neu reolwr newydd busnes bach. Cynlluniwyd yr offeryn hwn i gynnig profiad hwyliog a rhyngweithiol, gan hefyd roi trosolwg cyffredinol i chi o'ch cyfrifoldebau yn dilyn asesiad risgiau tân yn eich adeiladau. Wrth i chi weithio eich ffordd o gwmpas eich gweithle, yn cywiro'r materion a nodwyd ac yn ei wneud yn fwy diogel, cewch eich profi ar eich gwybodaeth gyffredinol am ddiogelwch rhag tân.
'Nawr profwch eich hun i weld beth yr ydych yn ei wybod eisoes – cliciwch ar y ddolen isod i ddechrau. (Yn agor mewn ffenestr newydd) Mae'r Offeryn Ymwybyddiaeth o Ddiogelwch rhag Tân Busnesau ar gael yn Saesneg yn unig.
Fire Training Simulation (nationalfirechiefs.org.uk)
(Os ydych yn cael trafferth rheoli eich symudiad o amgylch yr offeryn, ewch ati i leihau sensitifrwydd eich llygoden.)
Nodwch mai cynnig ymwybyddiaeth gyffredinol o ddiogelwch rhag tân yn y gweithle y mae'r offeryn hwn; ni fwriedir iddo fod yn offeryn hyfforddi ar gyfer cynnal Asesiad Risgiau Tân.