Mae'r gyfraith bellach yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid ac asiantau gael eu cofrestru neu eu trwyddedu. Mae cyfraith newydd - Deddf Tai (Cymru) 2014 - wedi'i chyflwyno yng Nghymru sy'n berthnasol i bob landlord ac asiant eiddo preswyl preifat. Os ydych yn berchen ar eiddo rhent neu'n gosod, yn rheoli a/neu'n byw mewn eiddo o'r fath, bydd y gyfraith hon yn effeithio arnoch chi.