Larymau Tân Awtomatig



Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru'n gwbl ymrwymedig i leihau nifer y galwadau tân diangen ac yn ei dro lleihau nifer yr ymatebion diangen a'u heffaith ar fasnach, busnes a'n hunain.

Mae twf yn nifer y systemau Synhwyro Tân Awtomatig wedi rhoi pwysau cynyddol ar adnoddau'r Gwasanaeth Tân ac Achub, sy'n gallu amharu ar ei allu i ymateb i argyfyngau go iawn. Fodd bynnag, mae'r Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Rhag Tân) 2005 yn darparu fframwaith cyfreithiol priodol er mwyn lleihau Signalau Tân Diangen gan barhau i wella diogelwch ar yr un pryd. 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru'n gwbl ymrwymedig i leihau nifer y galwadau tân diangen ac yn ei dro lleihau nifer yr ymatebion diangen a'u heffaith ar fasnach, busnes a'n hunain. Bydd lleihau nifer y galwadau tân diangen yn caniatáu i'n peiriannau tân fod ar gael ar gyfer argyfyngau go iawn a bydd hefyd yn rhyddhau adnoddau hanfodol i alluogi rhagor o hyfforddiant a gweithgareddau atal a diogelu i gael eu cynnal.



Mae Larymau Tân Awtomatig a Signalau Tân Diangen fel arfer yn codi o ganlyniad i systemau synhwyro tân awtomatig sy'n ddiffygiol neu sy'n cael eu cynnal a'u cadw'n anghywir. Maent fel arfer mewn adeiladau masnachol.

​Y gwahaniaeth rhwng Larymau Tân Awtomatig a Signalau Tân Diangen

Fel arfer gwelir Larymau Tân Awtomatig mewn adeiladau masnachol, maent yn synhwyro tân ac yn cysylltu'n awtomatig â chanolfan fonitro a allai drosglwyddo'r alwad i'r Gwasanaeth Tân ac Achub.

Mae Signal Tân Diangen yn fath o Larwm Tân Awtomatig sydd wedi galw am injan dân cyn pennu nad yw'r tân yn un go iawn.

Beth y gellir ei wneud?

Mae nifer o ffyrdd y gellir lleihau nifer y galwadau tân diangen a signalau tân diangen e.e.

Coginio - Dylid coginio mewn ardaloedd dynodedig yn unig. Gellir atal tebygolrwydd tost yn llosgi trwy ddefnyddio math i dostiwr sy'n cludo'r tost. Ystyriwch ddefnyddio system ganopi yn y gegin er mwyn echdynnu mwg ac i awyru.

Gosod a lleoli synwyryddion priodol - gellir lleihau'r nifer o alwadau tân diangen trwy ddylunio, gosod, comisiynu, derbyn, cynnal a chadw a rheoli system darganfod tân yn gywir. Er mwyn sicrhau gwaith o'r safon uchaf argymhellir eich bod yn defnyddio cwmni larwm tân sydd wedi ennill tystysgrif achrededig gan Gorff Trydydd Parti a gydnabyddir gan UKAS (Gwasanaeth Achredu'r Deyrnas Unedig).

Ymateb i larymau tân

Mae ein Hystafell Reoli yn derbyn galwadau trwy ddwy brif ffynhonnell:

  • Canolfan Derbyn Rhybudd - Adeiladau sy'n cael eu monitro a;
  • System 999 - Galwadau sy'n cael eu gwneud â llaw yn uniongyrchol o'r adeilad.

Canolfannau Derbyn Rhybudd - Adeiladau sy'n cael eu monitro

Mae'r Ganolfan Derbyn Rhybudd yn darparu'r swyddogaeth bwysig o ddiogelu eiddo rhag tân mewn adeiladau y tu hwnt i oriau gwaith arferol neu pan nad oes neb yno. Mae'r Ganolfan yn derbyn signal y larwm yn awtomatig heb unrhyw gyswllt llafar â phreswyliwr yr adeilad. Mae'n bell o'r adeilad lle mae'r larwm yn canu.

Mae'r gallu i gysylltu â Chanolfan o'r fath fel arfer o ganlyniad i ofynion yswiriant neu angen busnes penodol er mwyn sicrhau pan fydd tân mewn adeilad bydd hyn yn cael ei adrodd ar unwaith pan nad yw staff yn bresennol.

Mae rhai Canolfannau Derbyn Rhybudd yn defnyddio proses 'galw yn ôl' sy'n golygu cysylltu â'r adeilad sy'n cael ei fonitro er mwyn canfod a oes tân neu arwyddion o dân. Os nad oes tân amlwg neu arwyddion o dân gofynnir i'r unigolyn ddilyn gweithdrefnau archwilio'r safle a ffonio 999 os ddaw o hyd i arwyddion o dân. Felly, pan fydd staff yn bresennol mewn adeilad, fel arfer nid yw'r Ganolfan yn trosglwyddo'r alwad i Ystafell Reoli Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru hyd nes bod tân neu arwyddion o dân yn cael eu cadarnhau gan staff yn yr adeilad. Yn yr amgylchiadau hyn mae'n bwysig bod yr unigolyn sy'n cael ei ddewis gan reolwyr yr adeilad i fod yn bwynt cyswllt yn unigolyn sy'n gallu gwirio neu gadarnhau a oes arwyddion o dân neu beidio - a rheoli'r system larwm tân yn dilyn hyn. 

Os nad oes neb yn ateb yr alwad yn ôl yn dilyn cyfnod penodol o amser bydd y Ganolfan yn trosglwyddo'r alwad i Ystafell Reoli Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a fydd yn anfon, fel arfer, un injan dân.

Gall galwadau tân diangen o synwyryddion tân a systemau larymau tân gael eu hachosi am lawer o wahanol resymau, gellir delio â'r mwyafrif o'r rhain trwy gynllunio'n ofalus. Achosion nodweddiadol o alwadau tân diangen yw:

  • Mwg coginio - mae hwn yn cael ei synhwyro gan synhwyrydd mewn ardal gyfagos e.e. synhwyrydd mwg mewn coridor y tu allan i gegin.
  • Stêm a chwistrellwyr aerosol - mae'r rhain yn ysgogi synwyryddion mwg.
  • Math anghywir o synhwyrydd yn cael ei ddefnyddio i ddiogelu ardal benodol. Enghraifft nodweddiadol yw ystafell sy'n cael ei diogelu gan synhwyrydd mwg, ac yna'n cael ei defnyddio at ddiben arall lle defnyddir tostiwr neu degell hefyd.
  • Contractwyr yn gweithio ar y safle - mae hyn yn achosi llwch neu'n amharu ar y trydan sy'n gallu effeithio ar y system larwm tân.
  • Peidio rhoi gwybod i'r ganolfan monitro larymau pan fydd y system yn cael ei phrofi neu'n cael ei chynnal a chadw.
  • Rhaglen gynnal a chadw/profi anfoddhaol - pan nad yw'r synwyryddion yn cael eu glanhau a'u gwasanaethu'n aml.
  • Gosod y synhwyrydd yn y lleoliad anghywir - mewn ardal lle ceir llawer o symud yn yr awyr oherwydd gwresogi mecanyddol, awyru neu ffenestri agored.
  • Diffyg rheoli effeithiol - o ran cymryd cyfrifoldeb dros y system larwm tân, bod yn rhagweithiol ac yn ymatebol i achosion galwadau tân diangen a rheoli ymchwiliad cychwynnol i achos y larwm cyn galw'r gwasanaeth tân.
  • Fandaliaeth neu weithred faleisus - prif achos galwadau tân diangen, mae angen gwneud pobl yn ymwybodol o'u gweithredoedd a'u cyfrifoldebau o ran systemau larymau tân a synwyryddion.

Gall galwadau tân diangen ddod o dri phrif ddyfais:

Synwyryddion Mwg

Mae'r rhain yn ymateb i fwg a llygryddion tebyg yn yr awyr. Mae galwadau tân diangen sy'n cael eu hysgogi gan synwyryddion mwg fel arfer yn cael eu hachosi gan

  • goginio,
  • pryfed,
  • stêm,
  • llwch,
  • erosolau,
  • canhwyllau a
  • thanau agored.
Synwyryddion Gwres

Fel arfer defnyddir y rhain mewn ceginau, ystafelloedd boeleri ac ardaloedd tebyg lle efallai bod y synwyryddion mwg yn rhy sensitif ac yn achosi galwadau tân diangen. Mae'r synwyryddion wedi'u gosod i ganiatáu lefelau tymheredd disgwyliedig yn yr ardal sy'n cael ei diogelu a byddant yn achosi'r larwm i ganu os bydd y tymheredd yn mynd yn uwch na'r lefel ddisgwyliedig. Gallai galwadau tân diangen gael eu hachosi gan dymheredd uchel yn yr ardal sy'n cael ei diogelu neu gynnydd sydyn yn y tymheredd.

Blychau Torri'r Gwydr

Nid yw'r rhain fel arfer yn achosi galwadau tân diangen o ganlyniad i offer diffygiol. Fodd bynnag, gellir torri'r gwydr yn fwriadol neu trwy ddamwain. Gellir gosod fflap tryloyw neu orchudd arnynt os oes risg uchel o fandaliaeth.

Effaith ar Fasnach

Mae'r ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd gan y llywodraeth yn amcangyfrif bod cost galwadau tân diangen yn y DU tua £1 biliwn y flwyddyn. Bydd y rhan helaeth o'r gost hon yn cael ei hysgwyddo gan fasnach o ganlyniad i golli cynhyrchiant ac amharu ar fusnes. (Ffynhonnell - Cymdeithas y Diwydiant Tân​).

Gall galwadau tân diangen cyson mewn adeilad beri i'r staff fod yn ddifater ac yn llai parod i ymateb pan fydd larwm tân yn canu. Mae'n effeithio ar hyder y defnyddiwr yng ngwerth a dibynadwyedd y system larwm tân ac yn gwneud pobl yn amharod i gymryd y systemau hyn o ddifri.

Effaith ar Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

Mae signalau tân diangen yn cael effaith niweidiol ar y Gwasanaeth Tân ac Achub. e.e.

  • Maent yn dargyfeirio adnoddau hanfodol y Gwasanaeth o argyfyngau (gan beryglu bywyd ac eiddo).
  • Maent yn creu risg diangen i'r criwiau tân ac aelodau'r cyhoedd wrth ymateb (damweiniau posibl).
  • Maent yn amharu ar arferion gwaith hanfodol, hyfforddiant a gweithgareddau lleihau llosgi bwriadol a diogelwch rhag tân yn y gymuned.
  • Maent yn digalonni'r personél sy'n ymateb i'r nifer uchel o alwadau tân diangen.
  • Maent yn gosod pwysau ariannol ychwanegol y gellir ei osgoi ar y Gwasanaeth, yn enwedig o ran costau cyflog a fflyd cerbydau.
  • Y gost i'r busnes o ddiffoddwyr tân rhan-amser yn cael eu rhyddhau ar gyfer dyletswyddau gweithredol.
  • Effaith peiriannau tân yn cael eu symud yn ddiangen ar yr amgylchedd (llygredd sŵn ac aer).
Ein Nod​

Nod Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yw lleihau nifer y galwadau tân diangen sy'n dod o eiddo masnachol trwy weithio gyda pherchenogion, deiliaid a rheolwyr i nodi a mynd i'r afael â phroblemau, ac fel cam terfynol, cymryd camau gorfodi.

Mae ein hamcanion corfforaethol yn canolbwyntio ar ddiogelu ein pobl, ein heiddo, yr amgylchedd a'n treftadaeth trwy atal tanau ac argyfyngau eraill; ymateb i argyfyngau amgylcheddol, ymosodiadau terfysgol a llifogydd mawr, ac wrth gwrs, ymateb i danau yn y modd mwyaf priodol.

Bellach mae'n gyfrifoldeb ar yr holl Wasanaethau Tân ac Achub i nodi'r risgiau yn eu cymunedau lleol a sicrhau eu bod yn dyrannu adnoddau i leihau'r risgiau hynny. Mae ymateb i alwadau tân diangen yn dargyfeirio'r gwasanaeth tân ac achub o'i ddyletswyddau atal tanau, neu rhag deilio ag argyfyngau go iawn.

Ein hamcanion
  • Darparu un broses er mwyn lleihau galwadau tân diangen a signalau tân diangen.
  • Lleihau nifer y galwadau tân diangen sy'n cael eu cynhyrchu gan systemau synhwyro tân a larymau tân.
  • Lleihau nifer y signalau tân diangen sy'n cael eu hanfon i'r Gwasanaeth Tân.
  • Darparu'r ymateb mwyaf priodol gan y Gwasanaeth Tân ac Achub yn dilyn Galwadau Tân Diangen Awtomatig.
  • Gwella rheolaeth diogelwch rhag tân yr adeilad sy'n cael ei ddiogelu.
  • Ystyried defnyddio pwerau statudol pan nad yw'r ymdrechion i leihau signalau tân diangen yn dangos gwelliant.

Fodd bynnag, bydd unrhyw alwad i'r Gwasanaeth Tân ac Achub sy'n cadarnhau tân yn cael ymateb llawn awtomatig ac amserol.

Atal Signalau Tân Diangen

Wrth ymateb i Signalau Tân Diangen gallai'r criwiau tân wirio mesurau diogelwch yr adeilad. Gwiriad syml fydd hwn yn cynnwys ffyrdd dianc, arwyddion, synwyryddion a rhybuddion tân, hyfforddiant staff, goleuadau argyfwng ac unrhyw bryderon cyffredinol y gallai fod gan y criw.

Gallai unrhyw broblemau a nodir gan y criw tân arwain at archwiliad diogelwch rhag tân llawn gan swyddfa arbenigol diogelwch rhag tân ac os yn briodol bydd camau gorfodi yn cael eu rhoi ar waith.

Gall y rhestr wirio isod helpu i sicrhau bod y system larwm tân ac aelodau staff cyfrifol yn perfformio o fewn lefelau derbyniol.

  • A oes unigolyn dynodedig yn gyfrifol am y system larwm tân?
  • A yw'r larwm tân yn cael ei gwasanaethu gan unigolyn cymwys ac a yw'n cynnwys y Safon Brydeinig (neu Safon Ewropeaidd gyfwerth)?
  • A yw unrhyw ddiffygion yn cael eu trin yn gyflym ac effeithlon?
  • A yw'r system yn cael ei rheoli'n effeithiol er mwyn atal galwadau tân diangen a signalau tân diangen e.e. wrth brofi, contractwyr ar y safle ac ati.?
  • A oes cofnodion yn cael eu cadw o'r holl brofion, y gwasanaethu ac achosion galwadau tân diangen? Bydd cadw cofnodion o'r fath yn sicrhau cydymffurfiaeth â'r gyfraith.
  • A yw'r holl alwadau tân diangen yn cael eu harchwilio er mwyn canfod yr achos cyn galw'r gwasanaeth tân?
  • A oes unrhyw gamau unioni yn cael eu cymryd er mwyn atal yr alwad tân diangen rhag digwydd eto?​
  • Gallai unrhyw broblemau a nodir gan y criw tân arwain at archwiliad diogelwch rhag tân llawn gan swyddfa arbenigol diogelwch rhag tân ac os yn briodol bydd camau gorfodi yn cael eu rhoi ar waith.